Mewn rhaglen arbennig ar S4C heno (nos Lun 17 Hydref 21:00), byddwn yn bwrw golwg yn ôl ar ymgyrch tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011.
Gareth Roberts a Gwyn Jones fydd yn trafod taith y tîm drwy’r bencampwriaeth o’r canlyniad agos yn erbyn De Affrica yng ngêm gynta’r grŵp, hyd siom colli yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol ddydd Sadwrn.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r chwaraewyr â’r tîm hyfforddi gan gynnwys Mike Phillips, Stephen Jones a Robin McBryde gyda sylw i’r tîm, tactegau a charden goch Sam Warburton.
Mae’r rhaglen wedi ei hychwanegu at yr arlwy wrth i’r Sianel edrych ymlaen at ddarlledu’r ornest ar gyfer y drydydd safle rhwng Cymru ac Awstralia yn fyw fore Gwener, 21 Hydref am 08:00.
Yna fore Sul 23 Hydref am 08:30 gwyliwch holl gyffro'r rownd derfynol yn fyw o Auckland, ble bydd Seland Newydd a Ffrainc yn brwydro i hawlio’r cwpan.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?