Mae S4C a’r Daily Post wedi lansio Cystadleuaeth Carol Mil o Leisiau’r Nadolig 2011.
Mae yna wahoddiad i grwpiau, unigolion a chyfansoddwyr i gynnig am y wobr o £1,000. Bydd y garol fuddugol yn cael ei pherfformio yng Nghyngerdd Mil o Leisiau’r Nadolig ym Mhafiliwn Llangollen ar 11 Rhagfyr.
Bydd y gyngerdd yn cael ei darlledu ar S4C dros gyfnod y Nadolig a bydd manylion am y perfformwyr a’r tocynnau yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.
Dyma’r 17eg flwyddyn i’r cyngerdd gael ei chynnal, ar 13eg flwyddyn ar gyfer y gystadleuaeth.
Meddai Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Theledu Achlysur S4C, “Rydym yn falch o fod yn rhan o Gystadleuaeth Carol Nadolig Mil o Leisiau’r Nadolig eto eleni.
“Mae cysylltiad S4C â’r gystadleuaeth yn bod ers dros ddegawd bellach ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau o safon ragorol eto eleni, fel y bu bob blwyddyn.”
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Gwener 11 Tachwedd. Am fanylion sut i ymgeisio a’r rheolau yn llawn ffoniwch 01492 574 472 neu e-bostiwch events@dailypost.co.uk. Gallwch hefyd ddarllen y rheolau yn llawn ar wefan S4C.
Anfonwch eich ceisiadau at:
Claire Marshall
Event Dep
PO Box 48
Old Hall Street
Liverpool
L69 3EB
Neu drwy e-bost - events@dailypost.co.uk
Ni ddylai’r garol fod yn hirach na phedair munud a gellir ei hysgrifennu yn Gymraeg neu’n Saesneg. Rhaid i’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn wreiddiol - heb eu cyhoeddi, perfformio, na’u recordio cyn Rhagfyr 11, 2011.
Ni ddylai fod unrhyw reswm pam na all S4C neu drydydd parti arall fedru perfformio, neu ddarlledu’r garol ar y teledu/radio/neu gyfrwng arall, gwneud recordiad o’r garol, neu syncroneiddio’r garol gydag unrhyw ffilm/lluniau neu ymelwa o ddefnyddio’r garol mewn unrhyw fodd.
Yr enillydd y llynedd oedd E Olwen Jones o Talwrn, Ynys Môn, a gyfansoddodd gân hyfryd a theimladwy mewn arddull carol o’r enw Dim Ond Un.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?