19 Rhagfyr 2011
Mae trigolion cymuned Rhosllannerchrugog wedi penderfynu sefydlu grŵp ddrama amatur ar ôl llwyddiant creu pantomeim cymunedol i ddathlu’r Nadolig ar S4C.
Dyddiau wedi i’r llenni gau ar gynhyrchiad ‘Wizard o Rhos, Uffe’n’ am y tro olaf i actorion a thîm cynhyrchu Seren Nadolig Rhos, daeth y criw ynghyd i drafod prosiectau i’r dyfodol. Ymhlith yr enwau a gynigwyd i’r grŵp ddrama yw Cwmni Theatr Uffe’n.
Mae’r trigolion bellach yn paratoi ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf yn y flwyddyn newydd.
Cafodd Seren Nadolig Rhos ei lansio ym mhentref Rhosllannerchrugog nôl ym mis Medi gan yr impresario lleol Stifyn Parri. Yno wnaeth Stifyn, sydd wedi perfformio ar lwyfannau’r West End a chynhyrchu rhai o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, osod yr her i’r gymuned o gynhyrchu pantomeim yn Theatr y Stiwt. Y panto hwnnw fydd ymhlith uchafbwyntiau S4C ar ddiwrnod Nadolig.
Meddai Dylan Williams, un o gynhyrchwyr y panto, “Dros y misoedd diwethaf yn gweithio ar ‘Wizard o Rhos, Uffe’n’ dwi ‘di gwneud ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd a darganfod awch newydd i berfformio. Roedd yr holl griw yn gytûn ein bod eisiau parhau â’r prosiect a’r gobaith yw gweithio ar gynyrchiadau newydd yn 2012 a thu hwnt. Rydym yn hynod ddiolchgar i Stifyn a’r criw cynhyrchu am roi’r cyfle ini fod yn rhan o rywbeth anhygoel sydd wedi uno trigolion Rhos.”
Mae seiliau cadarn wedi’u gosod ar gyfer ffrindiau gydol oes ers i gamerâu Seren Nadolig Rhos ddechrau dilyn y pentrefwyr yn eu paratoadau ac mae’r trigolion yn parhau i gyfarfod yn y Stiwt yn wythnosol i wylio’r rhaglenni wrth iddynt gael eu darlledu ar S4C.
Eglura Stifyn, “Dwi wrth fy modd i glywed fod gan actorion a chriw’r cynhyrchiad gynlluniau i barhau fel uned pan fydd y camerau wedi hen ddiflannu. Megis ddechrau yw’r daith iddyn nhw. Yr anrheg ‘Dolig gorau erioed yw bod S4C wedi llwyddo i adael marc yn yr ardal. Yn sicr fe fyddai’n archebu fy nhocyn ar gyfer y prosiect nesaf.
“Nôl ym mis Medi, hadyn bach oedd gen i yn fy mhen bryd hynny ac mae’r hadyn hwnnw bellach wedi tyfu’n flodyn lliwgar ac arbennig. Dros y misoedd diwethaf, dwi ‘di cael y fraint o weld y cynhyrchiad yn datblygu ac roedd y perfformiadau terfynol yn anhygoel. Roedd Theatr y Stiwt dan ei sang a phawb wedi mwynhau canu, actio a dawnsio.”
Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Mae Seren Nadolig Rhos wedi cydio yn nychymyg ein gwylwyr, a bydd y panto ei hun yn un o uchafbwyntiau Dydd Nadolig S4C. Mae’n amlwg fod y prosiect wedi ennyn cryn ddiddordeb yn ardal Rhosllannerchrugog hefyd, ac rydym yn falch o glywed bod awydd i barhau â’r gweithgareddau yno.”
Bydd Seren Nadolig Rhos yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwrnod Nadolig am 17:50. Mae modd gwylio penodau blaenorol y gyfres ar wasanaeth dal i fyny S4C, s4c.co.uk/clic.
Seren Nadolig Rhos
Dydd Nadolig 17:50
Diwedd