Y gân Gŵyl y Baban gan Caryl Parry Jones fydd canolbwynt dathliadau Nadolig S4C eleni, wedi i sêr rhai o raglenni’r Sianel uno i recordio trefniant newydd ohoni.
Mae fideo newydd o’r gân yn denu sylw at y wledd o raglenni amrywiol sydd i’w mwynhau ar S4C dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd y gân a’r fideo hefyd ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefan S4C – s4c.co.uk/nadolig
Fe recordiwyd y gân am y tro cyntaf yn 1984 ac mae Caryl yn cofio’r achlysur. “Roeddwn i’n gweithio ar gyfres i HTV ar y pryd ac roedd angen cân Nadoligaidd ar gyfer rhaglen Nadolig. Felly mi es i a fy ngŵr Myf ati i ysgrifennu cân oedd â chyffyrddiad gospel iddi, a Gŵyl y Baban oedd y canlyniad.”
Mei Gwynedd o grŵp Sibrydion sy’n gyfrifol am y trefniant newydd ac yn ei pherfformio mae’r band Griff Lynch, Siôn Llwyd, Ynyr Roberts, Aled Richards a Meic Stevens, ac yn canu mae Tara Bethan, Elin Fflur, Only Men Aloud a Caryl Parry Jones.
“Mae Mei Gwynedd wedi gwneud job hyfryd ar y trefniant newydd ac mae hi’n andros o neis ei gweld hi’n ennill ei phlwyf fel cân sy’n cael ei chwarae bob Nadolig. Pan fydda i a’r band, 405’s, yn ei chwarae hi’n fyw mae pawb yn canu efo ni!” ychwanega Caryl.
Yn y fideo, gwelwn rai o sêr rhaglenni S4C yn teithio o wahanol leoliadau ac yn uno y tu allan i Eglwys St Illtyd, Llantrithyd ym Mro Morgannwg. Yn eu plith mae rhai o gast Pobol y Cwm, cyflwynwyr rhaglenni Stwnsh a Cyw, yr actorion Nia Roberts a Richard Harrington, Courtnay Hamilton a chyflwynwyr eraill yn cynnwys Gareth Roberts, Mari Grug, Dylan Ebenezer a Sarra Elgan.
Hefyd yn serennu mae grŵp o blant Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes, Caerdydd a pharti plant Heol-y-March.
Ymhlith yr uchafbwyntiau ar S4C yn ystod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd mae’r ffilm Patagonia a drama sy’n codi cwestiynau newydd ar yr actor Richard Burton. Hefyd cawn ddilyn her yr impresario Stifyn Parry o drefnu pantomeim yn Seren Nadolig Rhos, her yn y gegin yn Dudley: Pryd o Sêr, a chyfle i gofio dau gawr o Gymro yn y ddwy ddogfen Orig a Cofio Ceredig.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?