S4C yn cyhoeddi Adroddiad y Fforwm Cyfryngau Newydd
24 Tachwedd 2011
Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi Adroddiad cyntaf y Fforwm Cyfryngau Newydd a sefydlwyd gan yr Awdurdod yn gynharach eleni. Mae’r Adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i swyddogion ac Awdurdod y Sianel.
Mae Awdurdod S4C heddiw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Adroddiad a’r argymhellion. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener 6 Ionawr 2012.
Ffurfiwyd y Fforwm i roi cyngor a chynnig syniadau i S4C wrth i’r Sianel ddatblygu ei strategaeth ym maes Cyfryngau Newydd.
Gobaith y Fforwm yw y bydd yr argymhellion yn creu sail i bolisi newydd gan S4C mewn perthynas â’i ymwneud â’r Cyfryngau Newydd.
Ymhlith yr argymhellion a wneir, mae’r Fforwm yn awgrymu:
· Ail-ddiffinio pwrpas craidd y Sianel o ddarparu ‘gwasanaethau teledu’ i gynnwys ‘ar draws ystod o gyfryngau gwahanol.’
· Fod strategaethau comisiynu digidol a masnachol manwl yn cael eu llunio fel rhan o’r gwaith datblygu ar y gwasanaeth newydd.
· Buddsoddi mewn cynnwys ar-lein drwy Gronfa Ddigidol S4C yn hytrach na chomisiynu cynnwys.
Bydd yr Awdurdod yn ymateb i’r Adroddiad a chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.
Aelodau’r Fforwm yw Carl Morris, Iwan Standley, Marc Webber, Rhys Miles Thomas, Llinos Thomas, Rhodri ap Dyfrig, Peter Watkins Hughes a Daniel Glyn a’r cadeirydd yw Dyfrig Jones, aelod o Awdurdod S4C.
Meddai Dyfrig, “Mae S4C eisoes wedi datgan fod angen i’r Sianel ddatblygu ym maes Cyfryngau Newydd. Bydd syniadau ac argymhellion y Fforwm yn hanfodol bwysig i S4C wrth symud ymlaen yn y maes pwysig hwn.”
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Un o’r argymhellion gan y Fforwm ydy fod yr Adroddiad ei hun yn cael ei gylchredeg yn eang a’n bod yn gwahodd pobl sydd â diddordeb yn y pwnc i roi eu sylwadau. Bydd hyn yn digwydd drwy ymgynghoriad cyhoeddus fel bod ein dealltwriaeth ni o’r dewisiadau strategol rydan ni’n eu hwynebu yn y maes hwn mor gyflawn â phosib.”