Bydd S4C yn croesawu’r Flwyddyn Newydd yn fyw o Ŵyl y Gaeaf, Caerdydd.
Yn cyflwyno’r rhaglen fyw Blwyddyn Newydd Dda: Digwyddiadau 11 bydd Mari Grug a Morgan Jones gan gyfri’r eiliadau olaf cyn hanner nos o’r ffair aeafol yn y brifddinas.
Ym mhen arall y wlad, bydd Elin Fflur yn rhoi blas i ni o firi dathliadau’r Calan yn Nant Gwrtheyrn. Oddi yno cawn fwynhau cerddoriaeth fyw gan Dewi Pws a’r band Radwm a Geraint Lovgreen a’r Enw Da.
Bydd Dawnswyr Nantgarw hefyd yn ein diddanu o Gaerdydd.
Gydol y nos bydd Morgan a Mari yn cyflwyno holl arlwy’r Sianel yn fyw o’r safle yng Nghaerdydd, gyda Mari hefyd yn cyflwyno’r bwletin Tywydd oddi yno.
Mae Blwyddyn Newydd Dda: Digwyddiadau 11 yn glo ar noson o adloniant sy’n dechrau am 19:00 gydag Wedi 7: Nos Galan. Gyda gwên a deigryn, bydd Angharad Mair a thîm Wedi 3 ac Wedi 7 yn cyflwyno goreuon y cyfresi cylchgrawn yn ystod 2011.
I ddilyn bydd Noson Lawen yn cyflwyno adloniant yng nghwmni cynulleidfa o ardal Llanbedr Pont Steffan a bydd Cyngerdd Clasuron Pop yn wledd o rhai o’ch hoff ganeuon pop Cymraeg.
Ac i’n harwain at y rhaglen fyw o Ŵyl y Gaeaf, bydd rhai o sêr tîm rygbi Cymru yn ymuno â chriw Jonathan. Yn westeion bydd Shane Williams, George North, Jonathan Davies, Rhys Priestland, Scott Williams, Lloyd Williams, Ryan Jones a Robin McBryde. A bydd Madam Rygbi yn gwneud ymddangosiad arbennig!
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?