Bydd S4C yn darlledu gêm fawr Wrecsam yn fyw ac yn ecsgliwsif ar deledu daearol wrth iddyn nhw herio Brighton yn nhrydedd rownd Cwpan FA.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar y Cae Ras nos Fercher 18 Ionawr, ac yno i sylwebu ar y cyfan bydd tîm profiadol Sgorio.
Bydd y rhaglen yn dechrau am 19:15, gyda’r gic gyntaf am 19:30. Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ac mi fydd hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar wefan S4C: s4c.co.uk.
Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.
Mae’r gêm yn cael ei chwarae eto ar ôl i Wrecsam lwyddo i sicrhau sgôr gyfartal yn erbyn y tîm o’r Bencampwriaeth yn Stadiwm Amex ar ddydd Sadwrn 7 Ionawr. Petai’r Dreigiau’n llwyddo i’w curo nhw yn y gêm nos Fercher, byddan nhw’n wynebu’r cewri o’r Uwch Gynghrair Newcastle mewn gêm gartref ar y Cae Ras yn y rownd nesaf.
Mi fydd yr atgofion o drechu Arsenal yn y drydedd rownd ugain mlynedd yn ôl yn siŵr o danio’r dychymyg ac ysbrydoli’r Dreigiau presennol i geisio efelychu campau carfan 1991-92.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?