18 Ionawr 2012
Mae’r panel ar gyfres newydd S4C, Llais i Gymru wedi datgelu pa bedwar perfformiwr sydd gam yn agosach at dderbyn y cyfle i ennill cytundeb oddi wrth y cwmni recordio rhyngwladol Decca Records.
Y pedwar cantor lwcus ydy Trystan Llŷr Griffiths o Glunderwen, Rhiannon Herridge o Borthyrhyd, ger Caerfyrddin, Lisa Angharad o Aberystwyth, a James Williams o Bontypridd.
Ar y rhaglen Llais i Gymru nos Fawrth 24 Ionawr 20:25 mi fydd y cantorion yn derbyn eu her leisiol gyntaf ac yn perfformio o flaen cynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Yn ogystal â hynny, byddant yn derbyn sesiynau lleisiol gan yr athro canu Ian Baar ac yn recordio traciau demos yn stiwdio Universal yn Llundain.
Ar y panel sydd wrthi’n chwilio am lais i Gymru mae’r asiant talent Sioned James, a dau arbenigwr yn y diwydiant cerddoriaeth Mark Wilkinson a Tom Lewis o gwmni recordio Decca.
"Yn rhyfedd iawn, doedd dewis y pedwar olaf ddim yn anodd i ni fel panel," meddai Sioned James. “Mae Mark, Tom a minnau yn cydweithio’n dda.
“Roedd enwau'r pedwar yma yn codi dro ar ôl tro yn ein sgyrsiau swyddogol ac answyddogol, ac mi roedd hi’n benderfyniad greddfol, naturiol heb unrhyw ddadleuon o gwbl.”
Trwy gydol y gyfres cawn ddod i adnabod y pedwar llwyddiannus a'u dilyn wrth iddynt geisio dangos i’r panel eu bod nhw’n haeddu’r cytundeb sydd am lansio eu gyrfa gerddorol i'r genedl, ac i’r byd.
Fe fydd y daith yn un gyffrous i'r cantorion. Byddant yn wynebu mwy o dasgau a gweithgareddau megis datblygu eu delwedd; perfformiadau cyhoeddus achyflwyniad cerddorol arbennig ar ddiwedd y gyfres.
"Roedd y pedwar wedi dangos awch, brwdfrydedd heintus a phenderfyniad - dyma gryfder sicr y pedwar. Bydd disgwyl iddynt gofleidio'r holl gyfleoedd a pharhau i wneud hynny yn y dyfodol, petaent yn ddigon ffodus i ennill cytundeb recordio," esbonia Sioned.
"Ond os nad ydynt yn llwyddiannus, yna, bydd y gwaith yma gyda Decca, yn brofiad da ac o fudd mawr wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd canu."
Y pedwar terfynnol yw:
Trystan Llŷr Griffiths – 24 – Clunderwen, Sir Benfro
Mi aeth Trystan i astudio Cerdd a Chyfryngau ym Mhrifysgol Coleg y Drindod, cyn gweithio adref am dair mlynedd ac mae nawr yn astudio canu mewn gradd Meistr yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.
Rhiannon Herridge – 21 – Porthyrhyd, Caerfyrddin
Mae Rhiannon yn canu’n glasurol ac yn astudio yn Conservatorio di Rossini yn yr Eidal am flwyddyn cyn dychwelyd i Goleg Brenhinol y Gogledd ym Manceinion i orffen ei hastudiaethau Lleisiol ac Opera.
Lisa Angharad – 23 – Aberystwyth
Aeth hi i brifysgol Manceinion i astudio ‘Musical Theatre’. Mae hi nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n cyflwyno ar rhaglen Ddoe am Ddeg ar S4C.
James Williams – 29 – Pontypridd
Fe gystadlodd y tad i ddau o blant ar raglen realaeth X factor nôl yn 2008, lle gafodd ei fentora gan Dannii Minogue. Methodd gyrraedd y sioeau byw ond yn awr mae e gam yn agosach fyth at ennill cytundeb recordio. Mae’n cyn-golffwr brofesiynnol hefyd.
Diwedd