06 Chwefror 2012
Mae S4C wedi cyhoeddi rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru eleni gydag wyth cân yn mynd ymlaen i gystadlu am y wobr fawr.
Elin Fflur a Dafydd Du fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw ar S4C o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar nos Sul 4 Mawrth.
Roedd ymateb da iawn i’r gystadleuaeth eleni, gyda dros 120 o ganeuon yn ymgeisio a bu’n dasg anodd i’r rheithgor ddewis dim ond wyth o’r cyfansoddiadau ar gyfer y rhestr fer, sef:
Braf yw Cael Byw - Gai Toms a Philip Jones
Gwybod yn Well - Arwel Lloyd Owen
Cynnal y Fflam - Rhydian Pughe
Pan Mae’r Haul yn Codi – Aled Ellis-Davies
Cain - Nia Davies Williams a Sian Owen
Gorffen y Llun - Peter Jones a Rhys Iorwerth
Garth Celyn - Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris
Dim Ond Ffŵl sy’n Ffoi - Derfel Thomas a ‘Rocet’ Arwel Jones
Bydd y cyfansoddwyr yn gweithio gyda'r cynhyrchydd cerddoriaeth Meilir Gwynedd er mwyn paratoi eu cân ar gyfer y gystadleuaeth. Mae Meilir yn aelod o’r band Sibrydion, ac ef oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r fersiwn newydd o’r gân Gŵyl y Baban oedd yn hyrwyddo arlwy Nadolig S4C yn 2011.
“Dwi'n meddwl bod y panel wedi gwneud job dda o ddewis y rhestr fer ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o raglen sydd mor boblogaidd,” meddai Meilir, sy’n mwynhau’r her.
“Dwi’n ffeindio’r holl broses yn ddiddorol achos mae yna gwpwl o enwau yma sydd yn gigio ar y sîn roc Gymraeg yn gyson, ond hefyd rhai sydd yn cyfansoddi yn eu hamser eu hunain yn breifat. Mae’n gyfle grêt iddyn nhw gael gweld bod eu gwaith nhw llawn cystal â phobl eraill.”
Un o aelodau’r rheithgor eleni yw’r gantores Heather Jones. Union ddeugain mlynedd yn ôl, yn 1972, fe ganodd Heather y gân fuddugol ‘Pan Ddaw’r Dydd’ a gyfansoddwyd gan Geraint Jarman.
Mae cyn enillydd arall yn ymuno â Heather ar y rheithgor, sef Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn. Fe ddaeth Ynyr i’r brig y llynedd gyda’r gân ‘Rhywun yn Rhywle’ yr oedd wedi ei chyfansoddi ar y cyd â Steve Balsamo, seren y sioe West End ‘Jesus Christ Superstar’.
Y ddau aelod arall o’r rheithgor yw’r gantores Lisa Jên Brown o’r band 9Bach a’r cyfansoddwr amryddawn Alun ‘Sbardun’ Huws.
Dywedodd Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Theledu Achlysurol S4C, “Rydym yn falch iawn gyda’r ymateb i’r gystadleuaeth eto eleni, a llongyfarchiadau i’r wyth sydd wedi eu dewis ar y rhestr fer.
“Hoffwn ddiolch i Meilir Gwynedd am ei gyfraniad i’r gystadleuaeth eleni ac rwy’n edrych ymlaen i glywed sut mae’r caneuon wedi datblgyu erbyn y gystadleuaeth. Ond, barn y gwylwyr a’r panel o feirniaid fydd yn cyfri ar y noson.”
Pleidleisiwch dros eich ffefryn yn ystod y rhaglen fyw ar nos Sul 4 Mawrth. Y gân gyda’r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau - sy’n gyfuniad o bleidlais y gwylwyr a phanel y rheithgor - fydd yn cipio’r brif wobr o £7,500, tlws Cân i Gymru a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.
Diwedd
Yr wyth cân derfynol:
Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan - s4c.co.uk/canigymru
Braf yw Cael Byw - Gai Toms a Philip Jones. Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen, Penrhyndeudraeth
Daeth yr awen i ysgrifennu’r gân tra roedd Gai a Phil yn eistedd yng ngardd gwrw Y Ring, Llanfrothen ar ddiwrnod braf o haf. Roeddent wedi sylwi ar brydferthwch deiliant y coed Castanwydden ger llaw, ac roedd yna deimlad arbennig y diwrnod hwnnw gyda’r awen yn llifo!
Roedd Gai yn aelod o’r grŵp poblogaidd Anweledig ac mae hefyd wedi rhyddhau tri albwm dan yr enw Mim Twm Llai. Bellach mae o’n perfformio o dan ei enw ei hun. Mae Phil Jones yn adnabyddus fel aelod o’r grŵp Gwibdaith Hen Fran, mae hefyd wedi chwarae i Y Mistecs, Estella, Vates a Jac. Mae’r ddau yma wedi arfer cydweithio yn y gorffennol yn bennaf ar gyfer Mim Twm Llai. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Gai gyrraedd y rownd derfynol - ai dyma ei flwyddyn fawr?
Gwybod yn Well- Arwel Lloyd Owen. Llansannan yn wreiddiol, byw yn Llanelli
Mae hon yn gân syml am berthynas yn dod i derfyn, a’r edifar a'r tristwch sy'n dilyn. Mae Arwel yn gobeithio y bydd yn dod â naws wahanol i’r gystadleuaeth eleni.
Arwel yw prif gitarydd Al Lewis Band ac mae hefyd yn perfformio fel artist unigol gyda’r enw Gildas. Yn wreiddiol o Lansannan mae Arwel bellach yn byw yn Llanelli, ac yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn.
Cynnal y Fflam- Rhydian Pughe. Cemaes, Machynlleth
Yn y gân mae Rhydian yn ceisio cyfleu'r syniad o greu coelcerth fawr. Er mwyn cynnau coelcerth lwyddiannus mae angen amynedd, ymdrech, a gwaith paratoi trylwyr gan osod seiliau cadarn cyn tanio'r fflam, ac yn ôl Rhydian mae hyn hefyd yn wir am sawl agwedd o fywyd.
Daw Rhydian o Fro Ddyfi ac mae’n byw ar y fferm deuluol yng Nghemaes, ger Machynlleth. Mae’n gweithio rhan amser i Undeb Amaethwyr Cymru yn Aberystwyth. Mae wedi bod yn cyfansoddi ers ei fod yn ifanc iawn ac mae’n aelod o’r grŵp Hufen Iâ Poeth.
Pan Mae’r Haul yn Codi - Aled Ellis-Davies. Caernarfon
Cân hapus a syml yw hon, sy’n estyn teimlad o hapusrwydd positif yn dilyn cyfnod tywyll. Mae’r gân yn deyrnged i Tecwyn Lloyd Jones, a oedd yn aelod o’r grŵp Hitchcock gydag Aled. Mae rhannau o’r gitâr ar Pan Mae’r Haul yn Codi wedi cael ei hysbrydoli gan waith Tecwyn ar y gân Cewri, sef un o ganeuon Hitchcock.
Daw Aled o Gaernarfon ac mae wedi bod yn aelod o nifer o fandiau llwyddiannus, gan gynnwys Am Dwrw, Amddiffyn a Hitchcock. Er nad yw wedi perfformio ers deng mlynedd bellach, mae’n dal i ymddiddori mewn cerddoriaeth gan gyfansoddi, chwarae’r gitâr a recordio ychydig.
Cain - Nia Davies Williams a Sian Owen. Pen Llŷn ac Ynys Môn
Mae’r gân yn sôn am ferch ar y traeth mewn gwlad boeth yn gwylio pobl yn chwarae gwyddbwyll, gan gymharu’r gêm gyda bywyd.
Mae Nia, o Ben Llŷn, yn astudio MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn ond fe’i magwyd yn Ynys Môn, ac mae’n gweithio fel cyfieithydd, awdur a golygydd ar ei liwt ei hun. Sian sydd wedi ysgrifennu’r geiriau a Nia sydd wedi cyfansoddi’r alaw. Mae’n bartneriaeth go anghyffredin gan nad ydynt eto wedi cwrdd!
Gorffen y Llun - Peter Jones a Rhys Iorwerth. Caernarfon – bellach yng Nghaer a Chaerdydd
Neges syml sydd tu ôl i’r gân hon sef stori am ŵr ifanc yn gweld merch dlos wrth eistedd mewn caffi yn y dref. Mae’r ferch yn chwarae gemau gyda’i deimladau er ei fod yn siŵr mae hon yw’r un.
Daw Peter a Rhys yn wreiddiol o Gaernarfon, ond mae Peter bellach yn byw yng Nghaer ers tair blynedd, a Rhys yn byw yng Nghaerdydd. Fe enillodd Rhys y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011. Roedd y ddau yn aelodau o fand Quidest tra roeddent yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen.
Garth Celyn - Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris. Caernarfon
Mae’r gân wedi ei selio ar leoliad hanesyddol yn yr ardal sef Garth Celyn, yn Abergwyngregyn a oedd yn ôl yr hanes yn hen dŷ i Llywelyn Fawr a Siwan. Mae’r gân yn sôn am Siwan yn bradychu Llywelyn, am ei fod yn ei gadael i fynd i frwydro ar faes y gad dro ar ôl tro.
Tîm teuluol sydd wedi ysgrifennu’r gân hon, gyda mab a mam yn cyd weithio. Mae Gwilym yn perfformio ac yn cyfansoddi i’r grŵp Bandana, ac mae’n gobeithio dilyn gradd mewn archeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf. Athrawes Addysg Gorfforol yw Siân ac ychydig iawn o brofiad sydd ganddi mewn cyfansoddi.
Dim Ond Ffŵl sy’n Ffoi - Derfel Thomas a ‘Rocet’ Arwel Jones. Dyffryn Nantlle/Llandudno a Rhos-y-Bol/Aberystwyth
Mae’r geiriau yn sôn am dad a mab, neu fam a merch, yn cerdded law yn llaw ar lan y môr. Gellir dehongli’r gân fel neges ynghylch yr iaith Gymraeg, a’r etifeddiaeth amhrisiadwy o drosglwyddo iaith rhwng rhiant a phlentyn.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Derfel Thomas wedi bod yn athro yn Ysgol Gynradd Tudno, Llandudno ers deng mlynedd. Awdur a bardd a anwyd yn Rhos-y-Bol, Ynys Môn, yw ‘Roced’ Arwel Jones. Mae bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.