Mae S4C wedi cyhoeddi strwythur comisiynu newydd dan arweiniad Cyfarwyddwr Cynnwys a phedwar Comisiynydd Cynnwys.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Y bwriad yw symud o drefn goruchwylio golygyddol gyda phenderfyniadau comisiynu yn cael eu gwneud ar y cyd gan yr holl dîm comisiynu i batrwm lle mae comisiynwyr unigol yn comisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan.
“Bydd y drefn newydd yn galluogi S4C i ymateb yn gyflym i syniadau gan roi ystyriaeth fanwl i ddisgwyliadau ein gwylwyr a defnyddwyr. Mae datblygiadau ym maes darlledu a chyfryngau newydd yn cynnig sialensiau a chyfleoedd newydd a dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno strwythur newydd fydd yn hybu creadigrwydd ar draws y maes darlledu a chyfryngau digidol yng Nghymru a thu hwnt.
“Bydd y Cyfarwyddwr Cynnwys a’r unigolion a benodir yn ddolen gyswllt allweddol gyda’r sector gynhyrchu a BBC Cymru ac yn hybu cydweithio ar draws y sector greadigol er mwyn creu cynnwys bydd yn feiddgar ac uchelgeisiol.”
Ar hyn o bryd mae gan S4C Gyfarwyddwr Comisiynu ac wyth o olygyddion a phenaethiaid comisiynu. Bydd y swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yn fewnol ac yn allanol yn ddiweddarach yr wythnos yma. Bydd S4C yn ymgynghori gyda’r unigolion sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?