Sain Ddisgrifio yn cyfoethogi’r mwynhad o wylio S4C
10 Chwefror 2012
Yn ystod mis Chwefror mae ymgyrch ar S4C yn denu sylw at y gwasanaeth Sain Ddisgrifio sydd ar gael, yn rhad ac am ddim, ar bron pob set deledu. Mae’r gwasanaeth yn caniatáu i’r deillion a’r rhannol ddall fwynhau rhaglenni S4C yn annibynnol gyda chymorth sylwebaeth lafar.
Mae 10% o raglenni’r Sianel yn cynnig y gwasanaeth hwn yn cynnwys Cefn Gwlad, Teulu, Rownd a Rownd, Llais i Gymru, Sam Hughes: Cowboi Penfro, Dudley ar Daith, Bro: Papurau Bro, 'Sgota gyda Julian Lewis Jones a Cofio.
Un gwyliwr sy’n manteisio ar y gwasanaeth yw Rhian Evans, 67, o Gaerfyrddin. Pan roedd Rhian yn 18 oed fe ddarganfuwyd bod ganddi gyflwr o’r enw Retinitis Pigmentosa. Fe wnaeth ei golwg ddirywio yn raddol hyd nes ei bod hi bron yn gwbl ddall pan oedd hi’n 32 oed.
Mae’r gwasanaeth Sain Ddisgrifio yn golygu ei bod hi’n gallu dilyn cyfresi poblogaidd S4C.
“Yn y gorffennol, dwi wedi dechrau gwylio cyfres gan wybod y bydd fy ffrindiau yn siŵr o siarad amdani, ond wedi danto a diffodd y teledu am nad oeddwn i’n gallu dilyn y stori. Ond mae’r gwasanaeth Sain Ddisgrifio yn caniatáu i mi wylio rhaglenni poblogaidd ac ymuno yn y sgwrs gyda fy ffrindiau,” meddai Rhian, a fu’n gweithio i Llyfrau Llafar Cymru tan ei hymddeoliad yn ddiweddar.
“Y broblem yw bod llawer o raglenni yn dechrau gyda golygfeydd a cherddoriaeth a phethau’n digwydd, ond dim dialog. Mae’r sylwebaeth Sain Ddisgrifio yn gosod yr olygfa i chi rhwng y darnau lle mae pobl yn siarad.”
Gall y sylwebaeth gynnwys disgrifiadau o ddilyniant mewn plot, mynegiant gweledol, iaith y corff, gwisg a golygfeydd.
“Mae yn bendant yn gwneud gwahaniaeth pan fydda i’n mynd ati i ddewis pa raglen i’w gwylio,” ychwanega Rhian.
Bu Rhian yn sôn am y gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar y rhaglen Wedi 3 yn ddiweddar. Mae modd gwylio’r eitem ar wefan Sain Ddisgrifio
Mae modd derbyn y gwasanaeth yn rhad ac am ddim drwy newid y gosodiadau ar eich set deledu. Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 (Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT) neu ewch i’r wefan Sain Ddisgrifio
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?