15 Chwefror 2012
Mae pum ffilm - a fydd yn cael eu darlledu ar S4C yn ddiweddarach yn y flwyddyn - wedi cael eu dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Fe ddangoswyd y ffilmiau y penwythnos diwethaf yng ngŵyl dri diwrnod Ffresh, Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru, a hynny yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd.
Bydd y pum ffilm fer yn cael eu darlledu fel rhan o amserlen newydd S4C fydd yn cael ei lansio ar 1 Mawrth. Byddant yn cael eu dangos fel rhan o frand ‘Calon’ y Sianel, sef rhan o gyfres ffilmiau byrion gwahanol am bobl a chymunedau ein gwlad.
Fe gafodd pum gwneuthurwr ffilm eu dewis gan banel yn cynrychioli S4C a Ffresh ar ôl derbyn degau o geisiadau am y gystadleuaeth. Fe roddwyd £400 i bob un o’r enillwyr i’w galluogi i ddatblygu eu syniadau, gan gynnig darllediad ar S4C fel abwyd mawr arall.
Mae’r pum ffilm - Y Bobol yw’r Eglwys, Tawel Môr, Eryri Fer Ffilm, Creithiau a 4C - yn amrywio cryn dipyn mewn arddull a chynnwys, ond maen nhw i gyd yn adlewyrchu Cymru gyfoes trwy lygaid gwneuthurwyr ffilm ifainc.
Meddai James Nee, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffresh, “Roedd Ffresh yn falch iawn o’r cyfle i weithio gydag S4C i roi cyfle i bum gwneuthurwr ffilm ifanc i adlewyrchu Cymru gyfoes a dathlu ein cymunedau amrywiol. Dylai’r gwneuthurwyr ffilm i gyd deimlo’n falch o’r gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei gynhyrchu, sy’n dangos cymaint o ddawn sydd yng Nghrymu. Rydym yn gobeithio mai hyn yw dechrau’r berthynas gydag S4C ac y byddwn yn cydweithio gyda’r Sianel eto, gan gynnig syniadau cyffrous a gwreiddiol a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd ac yn dangos beth sy’n unigryw, ar yr un pryd yn fyd-eang ei apêl, yn y Gymru fodern.”
Ychwanegodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C, “Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio gyda Ffresh ar y prosiect Ffilm Gymuned Fer. Mae wedi bod yn gyfle arbennig i adnabod a meithrin doniau newydd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn dechrau perthynas hirdymor rhwng yr awduron a gwneuthurwyr ffilm ifanc ac S4C. Mae S4C wedi ymrwymo i gomisiynu a darlledu ffilmiau a rhaglenni sy’n herio gwylwyr, yn ogystal â’u diddanu, a bydd y ffilmiau yma’n sicr yn peri i bobl feddwl.”
Mae’r ffilm Y Bobol yw’r Eglwys yn herio ac yn dathlu bywyd diwylliannol Cymru heddiw. Wedi ei chyfarwyddo gan Catrin Doyle; Anne Siegel a Stephen Hanks yw’r Cyfarwyddwyr Ffotograffiaeth. Mae’n portreadu criw o bobl ifanc yn cael eu denu i hen gapel Cymreig sydd bellach yn dafarn.
Mae Tawel Môr wedi ei chyfarwyddo a’i ffilmio gan Rhiannon Tate a’i chyd-gynhyrchu gan Rhiannon ac Eleri Griffiths. Wedi ei ffilmio ar leoliad yn Sir Benfro, mae’n edrych ar y berthynas rhwng y môr, y tirlun a’r bobl sy’n byw ar lan y môr.
Mae Eryri Fer Ffilm wedi ei chyfarwyddo a’i hysgrifennu gan Victoria Louise Fellows a’i lleisio gan Sera Lousie Wilkins. Mae’n ymweld ag ardaloedd o Eryri sydd wedi bod yn amlwg mewn ffilmiau a rhaglenni ar hyd y blynyddoedd.
Mae Creithiau yn olwg drawiadol ar hanes diwydiannol cymoedd De Cymru. Cafodd ei chyfarwyddo gan Chris McGaughey, sydd hefyd yn cyd-gynhyrchu a chyd gyfarwyddo’r ffilm gyda Robert Godwin. Cafodd ei hysgrifennu a’i lleisio gan Nicholas McGaughey.
Mae’r ffilm 4C yn bortread o Emyr, dyn ifanc sy’n ffaelu cael gwaith ac yn cael fawr ddim lwc mewn bywyd. Ond mae ei agwedd at fywyd yn newid gyda marwolaeth ei dad-cu alcoholig. Y cast yw Emyr Wyn Jones, Cari Barley a Tom Mumford. Cafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a‘i chynhyrchu gan Richard Starkey a Christian Britten, gyda Josh Bennett yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth.
Diwedd