21 Chwefror 2012
Mae rhywbeth i bawb ar S4C wrth i ni gyhoeddi'r amserlen ar ei newydd wedd gyda rhaglenni newydd, arloesol, ffres a chyffrous sy'n dod ag wynebau newydd i'r sgrin.
Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C, "Mae'r cyntaf o Fawrth yn ddechrau ar gyfnod prysur o raglenni a chyfresi newydd sbon ar y Sianel. Bydd rhywbeth i bawb ymhlith y dewis o raglenni dogfen, adloniant, cerddoriaeth, drama, chwaraeon a chomedi.
"Yn ogystal â chyfresi newydd, mae hefyd newid yn nhrefn yr amserlen a bydd wynebau newydd yn dod â ffresni a chyffro i'r sgrin."
Y newid mwyaf yw pedair rhaglen reolaidd newydd sbon gydag adloniant, gwybodaeth a chyfle i chi leisio eich barn - Heno, Prynhawn Da, Pen8nos a Sam ar y Sgrin.
Am 7 o'r gloch bob dydd Llun i Iau, mae Heno - gyda Rhodri Ogwen Williams ac Emma Walford neu Rhodri Owen a Mari Grug yn cyflwyno - yn rhaglen gyffrous a difyr gyda gwesteion a chyfranwyr ffraeth a diddorol yn y stiwdio i drafod pob math o bynciau.
Bob dydd Llun i Gwener am 1 o'r gloch bydd Angharad Mair, Siân Thomas a Rhodri Ogwen Williams, yn eu tro, yn cyflwyno Prynhawn Da - rhaglen gyfeillgar a chyfforddus gyda cymysgedd o eitemau byw. Mae hefyd cyfle i fwrw golwg yn ôl ar rhai o raglenni archif S4C.
Un o uchafbwyntiau nos Wener fydd y rhaglen newydd Pen8nos yng nghwmni Eleri Siôn a Gethin Evans. Rhaglen o adloniant ysgafn ydi hon, yn y stiwdio a mewn cymunedau, gydag Elin Fflur a Llinos Lee yn darlledu o leoliadau gwahanol bob wythnos.
Mae Pen8nos wedi ei rhannu yn ddwy ran, gyda hanner awr o adloniant rhwng 7 a 7:30, ac yna awr arall am 8:25. Yn yr ail hanner byddwn yn mynd draw i stiwdio Jacpot, gyda Rhodri Ogwen Williams yn cyflwyno'r cwis poblogaidd.
I ddilyn Pen8nos am 9:30 bydd rhaglenni adloniant fel Jonathan, Sioe Tudur Owen a Dim Byd Mwy.
Yn glo ar un wythnos ac i groesawu'r wythnos nesa', mae'r rhaglen ar nos Sul Sam ar y Sgrin yn gyfle i chi roi eich barn am raglenni S4C. Aled Samuel sy'n cyflwyno ac mae rhyngweithio â'r gwylwyr yn hanfodol gan mai rhaglen y gwylwyr yw hi.
Ym mis Mawrth mae'r gwasanaeth newydd i ddysgwyr or enw Hwb yn dechrau. Mae'n cynnwys rhaglen wythnosol bob prynhawn Sul yn ogystal â gwasanaeth aml-lwyfan arlein. Nia Parry sy'n cyflwyno gyda'r cyflwynydd a'r dysgwr brwdfrydig Matt Johnson.
Mae pob rhaglen yn cynnwys eitemau o themau gwahanol, o du mewn a thu allan y stiwdio, yn cynnwys coginio, comedi a mwy. Ac yn y slot 'Sioe Siarad' cawn ddilyn ymdrechion Matt i feistrioli'r Gymraeg wrth iddo gyfweld â wynebau enwog ar y soffa.
Y newid sy'n effeithio ar y gwylwyr iau yw'r newid ym mhatrwm darlledu Cyw a Stwnsh. Bydd Cyw ymlaen bob bore tan 1 o'r gloch y prynhawn, cyn cymryd saib ar gyfer Prynhawn Da. Bydd rhagor o hwyl gyda Cyw ar ôl ysgol am 3 o'r gloch gydag Awr Fawr Cyw yn arwain at slot Stwnsh am 5:30 y prynhawn.
Ar ddydd Llun i Gwener, mae criw Stwnsh - Anni, Tudur, Lois ac Owain - yn cyflwyno rhaglenni amrywiol i bobl ifanc, a bob dydd Gwener byddwn yn mynd yn fyw i stiwdio TAG gyda Geraint ag Elin.
Mae Clwb Cyw yn parhau rhwng 7 a 9 bob bore Sadwrn ac yn cynnwys hanner awr ychwanegol bob bore Sul - 7 i 9.30. Hefyd, bydd digon o hwyl yn fyw o stiwdio Stwnsh Sadwrn bob bore Sadwrn am 9.
Bydd mis Mawrth yn gweld nifer o gyfresi newydd - yn eu plith mae Bla Bla Blewog i blant bach ar Cyw, a'r gyfres Cog1nio ar Stwnsh yn profi sgiliau pobl ifanc yn y gegin.
Newid arall yw fod Sgorio yn symud i slot am 6:30 bob nos Fawrth. Yr un fydd y rhaglen, gyda golwg yn ôl ar uchafbwyntiau gemau'r penwythnos a golwg ar newyddion mawr y byd pêl-droed.
Mae Pobol y Cwm yn parhau yn gonglfaen bwysig yn yr amserlen gyda rhaglen nosweithiol am 8, a chyfle arall i'w gweld yn hwyrach yn y noson am 10:30 - gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.
Mae ein hamserlen newydd yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi ac i nodi'r diwrnod byddwn yn darlledu rhaglen arbennig o gerddoriaeth a chwerthin gyda Caryl Parry Jones, Noson yng Nghwmni… Caryl. Bydd rhifyn arall yn y gyfres, Noson yng Nghwmni… Mark Evans ymlaen yn hwyrach yn y mis.
Yn hwyrach ar noson Gŵyl Dewi, bydd y criw sy'n gwneud Dim Byd yn cyflwyno rhaglen am un o arwyr 'coll' athletau Cymru, Jac y Ddafad Wyllt. Cawn hefyd weld sut mae trigolion Cwmderi yn dathlu diwrnod ein nawdd sant, a bydd y ddwy raglen newydd - Heno a Prynhawn Da - yn gwisgo cennin gyda balchder.
Heb anghofio cystadleuaeth Cân i Gymru sy'n cael ei chynnal ar nos Sul 4 Mawrth. Elin Fflur a Dafydd Du sy'n cyflwyno'r noson yn fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid gydag wyth o ganeuon yn cystadlu am yr anrhydedd. Rhagor o fanylion ar y wefan - s4c.co.uk/canigymru
Enw un casgliad o raglenni newydd yw Pobol, sy'n gyfres o raglenni dogfen yn adlewyrchu'r amrywiaeth o fewn y gymdeithas Gymraeg ei hiaith heddiw. Y rhaglen gyntaf yw Seren Ddisglair a'r testun yw Tina Sparkle, yr unig frenhines ddrag sy'n siarad Cymraeg.
Hefyd yn y gyfres mae stori'r darlledwr Chris Needs, y model Dylan Garner Tregaron i Efrog Newydd, Kris Hughes Y Pagan a'r cawr Derwyn Jones ar drywydd Y Dyn Talaf.
Casgliad arall yw Gwreiddiau ble mae rhai pobl cyfarwydd yn edrych ar gysylltiadau hanesyddol diddorol eu teuluoedd. Yn eu plith mae Dafydd Wigley a cysylltiad teuluol â'r gangster Murray The Hump.
Mae 999 yn deitl ar raglenni am y gwasanaethau achub a'r bobl ddewr sy'n gweithio iddynt. I ddechrau mae cyfres am waith yr Yr Ambiwlans Awyr, ac i ddilyn bydd Y Glas yn gyfres am yr heddlu, a bydd hefyd rhaglenni yn edrych ar fywyd mewn ysbyty.
O'r Galon yw un o'n cyfresi mwyaf llwyddiannus ac mae'n parhau eleni gyda rhagor o storiau personol a dirdynol.
Bob nos Lun i Gwener, byddwn yn dangos ffilm fer yn y gyfres Calon. Ffilmiau 3 munud yn unig yw'r rhain sy'n adlewyrchu bywyd a phobl yng Nghymru.
Mae'r cogydd Bryn Williams yn dod nôl i'w wreiddiau ac yn coginio o'r galon yn y gyfres newydd Cegin Bryn. Mae'n dychwelyd i ardal ei fagwraeth yn Sir Ddinbych i hel atgofion am fwyd ei blentyndod a manteisio ar y cynnyrch lleol.
Mae fi di duw yn gyfres newydd yng nghwmni Rhydian Bowen Phillips. Bydd yn croesawu gwesteion i'r stiwdio i drafod eu byd delfrydol.
Hanes diddorol y teulu Della Valle o Rydaman y cawn ni yn y ddogfen Efeilliaid Rygbi. Mae Dino a Marco, 16 oed, yn chwaraewyr rygbi penigamp - ond i'r Eidal mae'r efeilliaid yn troi i ddechrau eu gyfra fel chwaraewyr proffesiynol. Maen nhw wedi derbyn ysgoloriaeth i ymuno ag Academi Rygbi Viadana, yn Parma - sef yr ardal y gadawodd eu hen-ddadcu bron ganrif yn ôl i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru.
Mae her anghygoel yn wynebu Shân Cothi eleni a bydd dwy raglen Cheltenham Cothi yn ei dilyn pob carlam. Mae Shân wedi ymgyrmryd â her i gystadlu ar gefn ei cheffyl yn ras y St Patrick's Day Charity Derby yn Cheltenham. Bwriad yr her yw codi arian er budd elusen Ymchwil Cancr ac mae'n rhaid iddi hyfforddi'n galed ar gyfer cystadlu mewn camp beryglus sy'n gofyn am gryn ddewrder.
Gydol mis Chwefror mae Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi bod yn gofyn i wylwyr bleidleisio am Emyn i Gymru 2012. Mewn rhaglen arbennig awr o hyd cawn glywed 12 o hoff emynau'r genedl mewn cymanfa arbennig ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.
Mae Ffermwyr Ifanc yn enwog am eu hadloniant ac yn y rhaglen Ffermwyr Ifanc o'r Venue, cawn fwynhau eu perfformiadau ar lwyfan y theatr yn Llandudno. Bydd rhagor o gerddoriaeth yn y rhaglen Côr Cymuned yng nghwmni'r arweinydd Tim Rhys Evans a'i brosiect diweddaraf Only Kids Aloud.
Rhai eraill sy'n ceisio cadw trefn ar y plant yw athrawon Gwaith Cartref. Bydd y ddrama boblogaidd yn ei hôl am ail gyfres gydag wynebau newydd, a phroblemau newydd.
Mae rhaglen Galahad yn nodi tri deg mlynedd ers rhyfel y Falklands, a bomio llong y Syr Galahad ble lladdwyd 48 o filwyr Prydain - 32 ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig. Bydd hefyd rhaglen ddogfen arbennig Rhyfel y Falklands: Nôl i Faes y Frwydr gan y BBC yn gweld rhai o'r milwyr fu'n brwydro yn y rhyfel yn dychwelyd i'r ynysoedd.
Mae Nôl at y Gwrol Ryfelwyr yn raglen arall am y fyddin ac yn ail ymweld â milwyr gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig fu'n rhan o raglen ddogfen yn 1996.
I gyd fynd ag agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru, bydd y gyfres newydd o Bro yn dilyn y llwybr ac yn cwrdd â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau ar ei hyd. Ar gyfer y gyfres hon, mae Lowri Morgan yn ymuno â Shân Cothi a Iolo Williams ar eu taith.
Yn 2003, plymiodd Lowri Morgan i weld llongddrylliad y Titanic - ac mae hi'n un o ddim ond 80 o bobl i wneud hynny erioed. Mae ei ddiddordeb yn hanes y llong wedi parhau ac ym mis Ebrill, bron 100 mlynedd ers y drychineb, bydd hi'n cyflwyno dogfen Cymry'r Titanic yn edrych ar gysylltiad Cymry â'r llong.
Byddwch yn barod i gwrdd â rhai o bobol caletaf Cymru yn y gyfres Cwffio Cawell. Mi fydd yr Ymladdwyr Cawell a'u ffans yn rhoi dwrn i'r rhagfarnau, ac yn dangos pam bod Ymladd Cawell yn tyfu mewn poblogrwydd. Y rhaglen berffaith os ydych chi wedi cael llond bol ar yr un hen chwaraeon.
Gall ambell ffrae godi ar nos Sadwrn yn y gyfres Sion a Siân hefyd wrth i'r hen ffefryn ddychwelyd ar ei newydd wedd. Stifyn Parri a Heledd Cynwal sy'n profi faint mae partneriaid yn ei wybod am ei gilydd go iawn.
Dewch am drip i Blackpool gyda'r llu o Gymry sy'n teithio bob blwyddyn i westy Tony ac Aloma yn y ddogfen Tony ac Aloma - i'r Gresham. A bydd taith i fyd cerddoriaeth go wahanol yn y rhaglen Aled Jones: Fy Nhaith Glasurol.
Tai bach sy'n mynd â pryd Ifor ap Glyn yn y gyfres Tai Bach y Byd. Yn ôl arolwg diweddar y toiled ddaeth i'r brig fel dyfeisiad pwysicaf dyn, ac erbyn diwedd y rhaglen byddwch yn gwybod popeth sydd i'w wybod am doiledau'r byd!
Mae Gwefreiddiol yn sioe banel newydd sbon sydd wedi ei selio ar gynnwys y we, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno.
Mae'r cwmni bwyd Castell Howell yn enwog dros Gymru gyfan. Bydd rhaglen newydd yn gyfle i ddod i adnabod y bobl sy'n gweithio yno a dod i wybod beth sy'n mynd ymlaen tu ôl i'r llenni.
Yn ogystal â hyn i gyd, cofiwch bod rhai o'ch hoff gyfresi yn parhau, a rhai eraill yn dychwelyd gyda chyfresi newydd - Rownd a Rownd, Y Lle, Pobol y Cwm, Byw yn yr Ardd, Cefn Gwlad, Ffermio, Pethe, Pawb a'i Farn, Taro 9, Y Byd ar Bedwar, CF99, Ralio+, Y Clwb Rygbi … a llawer mwy.
Diwedd