27 Chwefror 2012
Mae caneuon hwyliog un o raglenni mwyaf poblogaidd gwasanaeth Cyw ar S4C bellach ar gael i’w lawr lwytho oddi ar y we.
O ddydd Llun 27 Chwefror ymlaen, bydd modd lawr lwytho caneuon o’r gyfres Abadas, gan gynnwys ‘Medli yr Abadas’ a ‘Fi ydy…’, am 75c y gân, oddi ar safleoedd iTunes, Amazon MP3, Spotify, Emusic, Music beta, rdio, Verizon Wireless, Rhapsody a Zune.
Cyfres i blant bach yw Abadas, sy’n cynnwys cymeriadau hoffus wedi ei hanimeiddio. Y cymeriadau yw: Hari’r hipo swil; Seren yr ystlum annwyl ac Ela’r llwynog llawen. Maen nhw’n byw o fewn llyfr lliwgar bachgen o’r enw Ben ac mae’r tri’n dod yn fyw wrth iddo agor y tudalennau - dyma pryd fydd yr hwyl a’r canu yn dechrau.
Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Dinamo a Kavaleer, mewn cydweithrediad â S4C, CBeebies a RTE. Cyd-lanswyd y gyfres ar y dair sianel ym mis Hydref 2011 ac yn fuan iawn daeth yn ffefryn ymysg y gwylwyr ifanc. Roedd ymateb y rheini mor ffafriol penderfynwyd cynnig y caneuon i’w lawr lwytho gan rieni a gwarchodwyr.
Dywedodd Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Yr Abadas yw rhai o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd ar wasanaeth Cyw ac mae’r caneuon hwyliog wedi apelio’n fawr at y gwylwyr iau a’u rheini hefyd.
“Rydym yn falch iawn fod Dinamo yn gallu cynnig caneuon y gyfres i bawb eu lawr lwytho â’u mwynhau dro ar ôl tro. Gallwn hefyd edrych ymlaen at wylio pennodau newydd sbon o’r gyfres ar S4C o 6 Mawrth.”
Mae poblogrwydd Abadas wedi ymestyn y tu hwnt i wylwyr S4C, CBeebies ac RTE ac er bod Dinamo’n dal mewn cynhyrchiad gyda’r gyfres, mae’r rhaglen eisioes wedi cael ei gwerthu yn fyd eang i sianel Al Jazeera, Hop! yn Israel, Disney Awstralia a Seland Newydd, EBS Korea a BBC Alba, ymysg eraill.
Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Siwan Jobbins, o Dinamo, “Ers dechrau darlledu Abadas ym mis Hydref 2011 mae rhieni wedi bod yn cysylltu â ni ar rhwydweithiau megis Facebook a Twitter i ganmol y gyfres ac yn holi pryd bydd y caneuon ar gael i’w prynu. O ganlyniad i’r sylwadau ffafriol yma, rydym wedi penderfynu rhoi’r caneuon ar werth yn gynt na’r disgwyl.
“Rydym, wrth gwrs yn tu hwnt o falch o lwyddiant y rhaglen ar y llwyfan rhyngwladol. Hefyd, fel cwmni o Gymru, roeddem yn benderfynnol o gynnig y caneuon i ‘ffans’ y gyfres yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.”
Mae Abadas yn rhan o Cyw ar S4C, sy’n wasanaeth i’r plant lleiaf. Mae Cyw yn cael ei darlledu bob dydd Llun i Gwener rhwng 07:00 y bore a 13:00, yna rhwng 15:00 a 17:00 yn y prynhawn. Hefyd, mae Clwb Cyw ymlaen bob bore dydd Sadwrn a Sul rhwng 07:00 a 09:00.
Diwedd