Mae S4C am gefnogi’r ymgyrch i sicrhau’r hawl i greu a defnyddio'r ddau enw parth - '.cymru' a '.wales' ar y we.
Bydd y Sianel yn ymuno â nifer o gyrff a chwmnïau yng Nghymru a thu hwnt sydd bellach yn cefnogi’r ymgyrch.
Bu galw ers rhai blynyddoedd am sicrhau hunaniaeth benodol i Gymru ar y we a rhoi hawl i bobl ddefnyddio’r ‘.cymru’ neu ‘.wales’, yn ogystal â chael defnyddio’r parth ‘.uk’.
Ond nawr, am y tro cyntaf ers 2008, mae ICANN – Internet Corporation for Assigned Names and Numbers - y corff byd-eang sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio enwau parth y rhyngrwyd, wedi gwahodd ceisiadau ar gyfer creu parthau newydd ar y we.
Mae cwmni Nominet, sydd â phrofiad helaeth o gofrestru a rheoleiddio'r parth ‘.uk’ ar y we, yn arwain cais i greu parthau i Gymru.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, dywed cwmni Nominet ei fod yn bwriadu sefydlu swyddfa yng Nghymru i reoli’r parthau ‘.cymru’ a ‘.wales’. Byddai gwasanaeth dwyieithog Cymraeg/Saesneg yn rhan annatod o waith y swyddfa. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cais hwn i ICANN.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Fel darlledwr, mae hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg wrth galon pob dim yr ydym yn ei wneud. Byddai cael defnyddio ‘.cymru’ a ‘.wales’ yn ffordd naturiol i gyfleu ein hunaniaeth ar ein gwefan a’n holl wasanaethau ar-lein a digidol.
“Rydym hefyd yn sylweddoli beth fyddai manteision busnes wrth gael yr hawl i ddefnyddio parth ‘.cymru’ neu ‘.wales’. Byddai’r parth yn ffordd effeithiol inni a’r cwmnïau sy’n darparu ein gwasanaethau gyfleu’r hyn sy’n unigryw am ein cynnyrch.”
Meddai Alex Blowers o Nominet, “Mae cael cefnogaeth darlledwr Cymreig mor amlwg ag S4C yn hwb anferth i’r ymgyrch. Mae’r Sianel wrth galon ein diwylliant a’n diwydiannau creadigol yng Nghymru a hefyd yn allforwr pwysig, gyda channoedd o raglenni’r sianel wedi eu gwerthu i farchnadoedd tramor.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?