Mae Arshad Rasul, Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C, wedi penderfynu gadael y sianel i fynd ar drywydd sialensiau newydd yn y diwydiant.
Bu Arshad yn ei swydd bresennol ers mis Awst 1999 ac yn ystod ei gyfnod yn S4C bu'n gyfrifol am oruchwylio'r newid o fewn y sianel i ddarlledu digidol a'r datblygiad i ddarlledu manylder uwch gan gynnwys sefydlu ardal ddarlledu manylder uwch a gomisiynwyd yn ddiweddar ym mhencadlys S4C yng Nghaerdydd. Bu hefyd yn goruchwylio adnewyddu a moderneiddio swyddfeydd y sianel yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Cyn ymuno â S4C, bu Arshad yn gweithio mewn swyddi peirianyddol uwch gyda chwmnïau a sefydliadau yn cynnwys Panasonic Broadcast Europe a Channel Four. Ef hefyd oedd cynrychiolydd S4C ar Fwrdd Digital UK, y sefydliad fu'n gyfrifol am reoli'r newid o ddarlledu analog i ddigidol drwy'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd Arshad Rasul, "Dw'i wedi gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth a'r proffesiynoldeb o fewn fy nghyfarwyddiaeth dros y 12 mlynedd ddiwethaf ac rwy'n diolch i bawb am weithio gyda mi drwy'r holl sialensiau oedd rhaid eu goresgyn yn ystod y cyfnod."
Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Gwnaeth Arshad gyfraniad mawr i'r gwaith o redeg ochr ddarlledu a pheirianyddol S4C yn llwyddiannus dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Rwy'n diolch iddo am ei gyfraniad ac yn dymuno'n dda iddo i'r dyfodol."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?