28 Mawrth 2012
Fe fydd S4C yn noddi prosiect sy’n galluogi côr plant o Gymru, Only Kids Aloud, i berfformio gwaith corawl mawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac ymweld ag un o ddinasoedd mwyaf deinamig Rwsia, St Petersburg.
Mae’r nawdd yn rhan o bartneriaeth greadigol ac ymarferol arbennig rhwng S4C a Chanolfan Mileniwm Cymru fydd yn para ar hyd y flwyddyn 2012.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cydweithio gyda Chwmni Opera Mariinsky o dan arweiniad yr arweinydd byd-enwog, y Maestro Valery Gergiev a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, i lwyfannu perfformiad o Wythfed Symffoni Mahler yno ddydd Sul, 1 Ebrill.
Mae S4C yn darlledu cyfres ddogfen sy’n dilyn y broses o greu'r côr plant o Gymru, Only Kids Aloud, ac yna eu paratoi ar gyfer y perfformiad mawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’r gyfres fer, Only Kids Aloud – a gynhyrchir gan gwmni Rondo – newydd ddechrau ar S4C.
Tim Rhys Evans, arweinydd Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, sy’n gyfrifol am y dasg o baratoi’r côr 85-aelod Only Kids Aloud, ar gyfer y perfformiad corawl.
Mae nifer o aelodau eraill o gôr Only Men Aloud, yn helpu yn y prosiect yma sy’n tynnu ynghyd plant o bob cwr o Gymru. Yn eu plith, mae Wyn Davies, sy’n cyflwyno’r gyfres ar S4C.
Mae’r gyfres yn eu dilyn bob cam o’r ffordd i lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, ac mae’r rhaglen olaf ar nos Sadwrn 7 Ebrill am 7.40pm yn gyfle i fwynhau darnau o’u perfformiad nhw ar lwyfan y Ganolfan.
Mae’r côr hefyd yn ymweld â Theatr Mariinsky yn St Petersburg gan ymweld â rhai o atyniadau mawr y ddinas, gan gynnwys yr Hermitage. Bydd y rhaglen ar nos Sadwrn 31 Mawrth am 9.00pm yn dilyn y plant yn ystod eu hymweliad â Rwsia.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae S4C yn falch iawn o gael noddi’r prosiect yma fel rhan o’r bartneriaeth gyffrous rhwng y Sianel a Chanolfan Mileniwm Cymru dros y misoedd nesaf.
“Mae’n brosiect sy’n cyfleu rhai o werthoedd pwysicaf S4C fel sianel sydd yng nghanol bwrlwm diwylliannol Cymru. Mae cynnig cyfleoedd cyffrous i blant o bob cefndir ac ardal a chynnig llwyfannau iddynt fynegi eu doniau yn amcanion sy’n bwysig iawn inni. Mae hefyd yn cynnig teledu difyr – stori am blant a phobl sy’n anelu at berfformio i’r safon uchaf posibl,”
Meddai Mathew Milsom, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru, ‘Ein gweledigaeth yw rhoi llwyfan i’r gorau o Gymru gerbron y byd ac i fynd â’r gorau o Gymru i’r byd. Mae’r prosiect yma’n cyfleu’r weledigaeth honno, yn ogystal â’n hamcan sylfaenol o ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy gyfrwng y celfyddydau. Rydym yn ddiolchgar i S4C am ei nawdd a’i hymroddiad wrth gefnogi’r weledigaeth hon.”
Diwedd