Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd newidiadau i raglen nosweithiol 'Heno' ym mis Mai yn dilyn ymateb a sylwadau gan wylwyr yn ystod wythnosau cynta'r rhaglen newydd.
Mae Tinopolis ac S4C wedi gwrando ar y sylwadau ac wedi penderfynu gwneud newidiadau i gynnwys ac arddull y rhaglen fydd yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gael perthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac adlewyrchu gweithgaredd cymunedol.
Bydd llai o bwyslais ar gynnwys stiwdio a mwy ar gyfleu'r hyn sy'n digwydd ym mhob cwr o Gymru. Bydd cyhoeddiad pellach gyda mwy o fanylion yn agosach at y dyddiad.
Fel rhan o'r newid, bydd swyddfa Tinopolis yng Nghaernarfon yn ail agor gyda'r bwriad o sicrhau presenoldeb cyson o'r Gogledd a'r Canolbarth yn 'Heno'. Bydd rhai newidiadau hefyd i'r rhaglen brynhawn 'Prynhawn Da', eto i ymateb i sylwadau'r gwylwyr.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?