12 Mehefin 2012
Bydd S4C yn ei throi hi am y ffordd fawr yn nes ymlaen y mis hwn, gan ddilyn ôl traed Sipsiwn Romani Cymru.
Mewn cyfres arbennig o'r enw Y Sipsiwn, a fydd yn para wythnos, bydd y cyflwynwyr, Ifan Jones Evans a Shân Cothi, yn teithio o Langrannog yng Ngheredigion i Abergwaun, Sir Benfro mewn carafán sipsiwn – 'varda' – rhwng 25 a 30 Mehefin.
Ar yr un pryd, cynhelir mis o ddigwyddiadau er mwyn dathlu traddodiadau Sipsiwn Romani yng Nghymru. Arweinir y dathliad hwn gan y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani ym Mae Caerdydd. Mae'r cwmni wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau amlwg a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gyfres deledu yn darganfod sut y mae'r Sipsiwn Romani wedi gadael eu hôl ar fywyd a hanes Cymru. Cyflwynir eitemau am eu traddodiadau, eu cerddoriaeth, eu diwylliant yng Nghymru, Ewrop a'r byd, ac yn enwedig yr erledigaeth a'r rhagfarn y bu'n rhaid iddynt ei wynebu dros y cenedlaethau.
Bydd digwyddiad lleol yn cyd-fynd gyda phob rhaglen fyw a fydd yn dilyn taith y garafán. Byddwn yn cyfarfod pobl o dras Romani, yn ogystal â darganfod mwy am gredoau ac arferion y Sipsiwn Romani. Gari Wyn fydd yn archwilio hanes teulu y Sipsiwn Cymreig, Abram Wood, a chawn glywed mwy am y cyfnod dan sylw – sef 1900 – gan yr hanesydd Arddun Arwyn.
Bydd Ifan Jones Evans yn cymryd cam yn ôl i flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif wrth iddo deithio mewn carafán Sipsiwn a fydd yn cael ei hadeiladu gan grefftwyr lleol a chan ddefnyddio ceffylau o stablau lleol ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.
Mae'r gymuned Romani yn teimlo bod rhai rhaglenni teledu am Deithwyr wedi arwain at ragfarn tuag at gymuned y Sipsiwn – ac mae cyfres S4C a digwyddiadau'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani yn cael eu hystyried fel cyfle i esbonio'r dreftadaeth a'r ffordd o fyw mewn ffordd gytbwys.
Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani, “Mae Y Sipsiwn yn gyfres gyfoes sy'n ystyried hanes traddodiad y Sipsiwn Romani hefyd, gan helpu i greu ymwybyddiaeth o'r cefndir a'r hanes, yn ogystal â sefyllfa'r gymuned heddiw. Y gobaith yw y bydd yn gwrthbwyso rhywfaint o'r rhagdybiaethau negyddol yn y cyfryngau, gan herio'r stereoteipiau a'r mythau.”
Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran hawliau Sipsiwn a Theithwyr. Y llynedd, cyhoeddodd ddogfen bolisi o'r enw 'Teithio at Ddyfodol Gwell', sy'n cynnwys yr holl agweddau ar fywyd y gymuned deithiol, gan gynnwys addysg a llety.
Bydd cyfres Y Sipsiwn yn cychwyn ar nos Iau 21 Mehefin yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog, a bydd y rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar lyfr clasurol yr awdur plant o Gymru, T Llew Jones, a'r ffilm a gynhyrchwyd gan S4C yn y 1990au, Tân ar y Comin, a oedd yn cynnwys Edward Woodward ymhlith yr actorion. Darlledir y ffilm ar ddechrau tymor Sipsiwn S4C ar nos Sul 17 Mehefin.
Ddydd Llun 25 Mehefin, bydd y varda yn cychwyn ar ei thaith, gan adael Llangrannog a chan ymweld ag Aberteifi, lle chawn gipolwg ymlaen llaw o Ŵyl Aberteifi. Bydd pob rhaglen yn bwrw golwg yn ôl ar y daith yn ystod y diwrnod hwnnw.
Ddydd Mawrth 26 Mehefin, bydd y varda yn teithio i Gastellnewydd Emlyn, lle y bydd beirdd yn dathlu treftadaeth lenyddol cymuned y Sipsiwn Romani mewn digwyddiad 'Cnoi Draenogod' a gynhelir yn Neuadd Emlyn ac yn y Castell. Mae’r noson yma ar y cyd gyda Llenyddiaeth Cymru.
Y diwrnod wedyn, ar ddydd Mercher 27 Mehefin, bydd y garafán a'i dilynwyr yn cyrraedd Crymych, lle y bydd timau yn cystadlu i godi arian at achosion lleol mewn noson o hwyl 'Mabolgiamocs'.
Trefdraeth, Sir Benfro fydd y lleoliad ar ddydd Iau 28 Mehefin. Ar Draeth Parrog, bydd y Clwb Hwylio lleol yn cynnal noson o gerddoriaeth fyw gan Lowri Evans a RADWM.
Ar ddydd Gwener 29 Mehefin, bydd twmpath dawns yn cael ei chynnal yn Ysgol Gynradd Glannau Gwaun yn Abergwaun.
Yn olaf, ar nos Sadwrn 30 Mehefin, bydd y gyfres yn cyrraedd pen ei thaith yn nhafarn adnabyddus Tafarn Sinc, Rosebush, lle y cynhelir noson a fydd yn cynnwys cerddoriaeth Jazz Sipsiwn, y delyn deires, dawnsio traddodiadol a chyfle i fwrw golwg yn ôl dros uchafbwyntiau'r wythnos a chrynhoi pwysigrwydd dylanwad y Romani ar ein diwylliant.
Ychwanegodd Dyfrig Davies, Uwch Gynhyrchydd y gyfres ar S4C, “Mae’n anrhydedd cael gweithio ar y gyfres a hynny oherwydd ei fod yn bwnc mor ddiddorol. Hefyd mae wedi fy ngoleuo i’r rhagfarn y mae’r Sipsi Romani wedi ddioddef. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn, nid yn unig gyda chwmniau Mr Producer a Slam Media o ran y cynhyrchiad, ond hefyd gyda mudiadau lleol a chenedlaethol – gan gynnwys y Romani Cultural and Arts Company, yn ffordd effeithiol o weithio. Dw i’n edrych ymlaen at ddeffro atgofion pobl o’r Sipsiwn Romani a’r modd y maen nhw wedi cyfoethogi’n diwylliant ni.”
Darlledir rhaglenni pellach yn ystod tymor y Sipsiwn ar S4C, gan gynnwys rhaglenni dogfen am hanes y sipsiwn yng Nghymru, cipolwg ar fywyd presennol cymdeithas y Sipsiwn Romani yng Nghymru a rhaglen am gerddoriaeth Sipsiwn Romani. Yn ogystal, darlledir ffilm arobryn S4C, Eldra, a seiliwyd ar fywyd cynnar Eldra Jarman, Romani, yng ngogledd Cymru.
Gorffen