Mae S4C wedi agor ei Chanolfan Gyfryngau newydd ar ei safle ym Mharc Tŷ Glas, Caerdydd yn swyddogol ddydd Gwener 11 Ionawr.
Mae’r ganolfan yn lleoliad i gwmnïau o’r diwydiannau creadigol i weithio gyda’i gilydd ar safle sydd ag adnoddau gwych.
Wrth agor y ganolfan, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones ei fod yn gobeithio y bydd y fenter yn dod a manteision i S4C ac i’r sector creadigol yng Nghymru.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:
“Mae gan S4C safle gwych yma yn Llanisien yn y brifddinas, ac mae agoriad y Ganolfan Gyfryngau newydd yma’n fodd o rannu ei gryfderau gyda chwmnïau ar draws y diwydiannau creadigol. Dwi’n mawr obeithio y bydd y ganolfan yn nodweddiadol o’r bwrlwm creadigol sydd wastad yn bodoli o fewn y sector darlledu ac yn y cyfryngau yn gyffredinol.
“I S4C, mae gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gyda ni yn bwysig iawn ac wrth agor ein drysau a chroesawu cwmnïau allanol, ry’n ni’n creu cyfle economaidd i hybu’n gwasanaethau yn y pen draw.
“Ry’n ni’n croesawu’n gynnes y cwmnïau a sefydliadau cyntaf i ymsefydlu yma yng Nghanolfan Gyfryngau S4C.”
Nodiadau:
Y cwmnïau/sefydliadau cyntaf i ymsefydlu yng Nghanolfan Gyfryngau S4C yw:
Cyfle
Film Agency Wales
Gorilla
Mr Producer
Media 4
Rights.TV
Mae swyddfeydd y cwmnïau allanol Dolphin a Buffalo Sound Recorder eisoes wedi eu lleoli yng Nghanolfan Gyfryngau S4C yn Llanisien.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?