S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cytundeb Gweithredu BBC-S4C yn Cael ei Gyhoeddi

30 Ionawr 2013

Mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C wedi dod i gytundeb hanesyddol sy’n corffori partneriaeth newydd rhwng y ddau ddarlledwr.

Mae’r Cytundeb Gweithredu newydd yn sicrhau bod gan ddarlledu ar y teledu yn y Gymraeg ddyfodol diogel wrth i S4C symud at gael ei ariannu’n bennaf gan y BBC tan 2017 tra ar yr un pryd sicrhau annibyniaeth olygyddol, rheoli a gweithredol S4C.

Cymeradwywyd y Cytundeb mewn cyfarfodydd ar wahân o Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C ym mis Ionawr. Tra’n sicrhau annibyniaeth S4C, mae’n amlinellu hefyd brosesau atebolrwydd addas ar gyfer Ymddiriedolaeth y BBC am y cyllid o ffi’r drwydded a fydd yn mynd i’r sianel.

O Ebrill 2013 ymlaen, bydd mwyafrif incwm cyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu gan y BBC o ffi’r drwydded. Bydd Awdurdod S4C yn parhau i fod yn gorfforaeth statudol annibynnol, a bydd yn derbyn cyllid hefyd oddi wrth Lywodraeth y DU ac yn cynhyrchu refeniw masnachol ei hun.

Daw’r Cytundeb yn dilyn proses o ymgynghori cyhoeddus a lansiwyd gan yr Ymddiriedolaeth a’r Awdurdod yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ac ers i’r ymgynghoriad ddod i ben wedi bod yn ystyried newidiadau i’r cytundeb.

Heddiw, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten:

"Rwyf wrth fy modd bod Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C wedi cymeradwyo’r Cytundeb Gweithredu hwn, sy’n ymhelaethu’r bartneriaeth sydd gennym eisoes yng Nghymru. Trwy’r Cytundeb hwn rwyf o’r farn y bydd y naill sefydliad a’r llall yn medru datblygu’r cyfryngau darlledu Cymraeg ymhellach a darparu gwasanaeth sy’n cwrdd ag anghenion a disgwyliadau cynulleidfaoedd yng Nghymru – disgwyliadau ac anghenion sy’n newid ac esblygu."

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C hefyd:

“Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol ar gyfer darlledu Cymraeg sy’n darparu eglurder ar gyfer y berthynas newydd rhwng S4C a’r BBC, tra ar yr un pryd yn diogelu annibyniaeth S4C.

“Mae’r Cytundeb Gweithredu hwn yn cynrychioli penllanw trafodaethau helaeth rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a nifer o randdeiliaid ac mae’n diogelu’r rhan helaeth o gyllid S4C tan 2017. Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Bu eu cyfraniadau yn werthfawr tu hwnt ac maent wedi cyfrannu’n arwyddocaol at eiriad terfynol y Cytundeb unigryw hwn.”

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru:

“Fy mhrif flaenoriaeth yw cynorthwyo S4C i ddarparu’r rhaglenni gorau posib i gynulleidfaoedd Cymraeg, tra’n diogelu annibyniaeth S4C a sicrhau bod arian o ffi’r drwydded yn cael ei wario’n ddoeth. Bydd y bartneriaeth helaethach hon yn adeiladu ar ymrwymiad y BBC i’r Gymraeg sydd wedi bodoli ers dyddiau cynharaf y Gorfforaeth, ac yn adeiladu ar lwyddiannau S4C dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf ac yn symud darlledu yn y Gymraeg yn ei flaen tuag at ddyfodol creadigol hyderus.”

Bydd y BBC yn cyfrannu’r canlynol o ffi’r drwydded i S4C:

2013-14 - £76.3m

2014-15 - £76.0m

2015-16 - £75.25m

2016-17 - £74.5m

Yn ogystal yn ystod 2013-14 bydd y BBC yn cyfrannu rhaglenni gwerth £19.4m fel rhan o’r Bartneriaeth Strategol ar y ddarpariaeth statudol o raglenni.

http://www.s4c.co.uk/production/downloads/c_cytundeb-gweithredu-s4c-bbc.pdf

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?