Safonau rhagorol yn golygu bod dau gôr plant yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru
18 Mawrth 2013
Am y tro cyntaf yn hanes cystadleuaeth Côr Cymru mae dau gôr o'r un categori wedi ennill lle yn y rownd derfynol.
Yn y rhaglen ar nos Sadwrn, 16 Mawrth, cawsom fwynhau uchafbwyntiau rownd cynderfynol categori'r corau plant, ble roedd pum côr yn canu ar y llwyfan.
Ar ddiwedd y noson o gystadlu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, bu rhaid i'r beirniaid gyhoeddi un côr i fynd ymlaen i'r rownd derfynol - a Chôr Iau Glanaethwy a dderbyniodd yr anrhydedd honno.
Ond, cafwyd drama ychwanegol ar ddiwedd y rhaglen. Yn dilyn cais gan y beirniaid mewn ymateb i safon eithriadol y corau plant, a thrafodaethau gyda S4C, cyhoeddwyd y bydd Côr y Cwm o ardal y Rhondda hefyd yn cystadlu yn y rownd derfynol yn fyw ar S4C nos Sul 14 Ebrill. Bu'r beirniaid yn hir yn ceisio dewis un enillydd ar gyfer y categori, ac er y bu'n rhaid cyhoeddi un enw ar y noson, roedden nhw'n grediniol fod y ddau gôr yn llawn haeddu lle yn y rownd derfynol.
Dywedodd Katie Thomas, un o feirniaid y gystadleuaeth eleni, "Roedd hi'n braf iawn i glywed bod safonau canu corawl yng Nghymru yn parhau i godi - ac yn y corau plant yn enwedig. Diolch i'r gwaith aruthrol sy'n cael ei wneud gan nifer o arweinyddion ymroddedig iawn. ‘Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed perfformiadau graenus gan bob un o'r corau yn y rownd derfynol."
Dywedodd Geraint Rowlands, Comisiynydd Digwyddiadau S4C, "Ar adegau yng nghystadleuaeth Côr Cymru, mae dewis enillydd yn dasg anodd iawn i'r beirniaid, ond ar yr achlysur hwn roedden nhw'n grediniol bod dim modd gwahaniaethu rhwng dau gôr ac felly roedd rhaid rhoi cyfle i'r ddau gystadlu am y teitl yn y rownd derfynol.
"Mae hyn yn brawf o safon y canu ar lwyfan Côr Cymru sy'n gredyd i'r corau sy'n cymryd rhan."
Mae Côr Iau Glanaethwy a Chôr y Cwm yn ymuno â Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal sydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd derfynol. Yn rhaglen nesa'r gyfres ar nos Sadwrn, 23 Mawrth 9.00, cawn fwynhau uchafbwyntiau'r cystadlu rhwng y corau meibion, gyda'r corau merched a cymysg i ddilyn dros y penwythnosau nesaf.
Yn dilyn sioc y categori plant, does dim dal beth fydd canlyniad y categorïau yma.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sul 14 Ebrill ac yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C am 6.30pm.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?