Eich llinach – astudiaeth DNA Gogledd Cymru ar gyfer rhaglen newydd S4C
27 Chwefror 2013
Mae arbenigwyr geneteg ym Mhrifysgol Sheffield yn edrych am wirfoddolwyr sy'n gallu dilyn eu llinach i Ogledd Cymru, er mwyn cymryd rhan mewn arbrawf a fydd yn ymddangos mewn cyfres deledu newydd ar S4C.
Bydd criw o gwmni Alfresco sy’n rhan o grŵp Boom Pictures Cymru yn dilyn y gwyddonwyr ar gyfer cyfres newydd sbon i S4C, Corff Cymru. Darlledir Corff Cymru ar S4C ddiwedd Ebrill.
Mae’r arbenigwyr yn edrych am ddynion o Ogledd Cymru, yn enwedig ardal yr hen Sir Drefaldwyn, sy'n gallu dilyn eu llinach gwrywaidd yn ôl ddwy genhedlaeth (hynny yw, eich tad, a’i dad ef) i’r ardal.
Holl fwriad yr arbrawf yw astudio DNA'r Cymry a’u cymharu â phobl o Swydd Amwythig, yr ochr arall i’r ffîn, er mwyn trio dehongli hanes yr ardal yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol tebyg i fwyngloddio copr yn Llandudno ac Ynys Môn adeg yr Oes Efydd.
Caiff y prosiect ei arwain gan Dr Andrew Grierson o Brifysgol Sheffield, sy’n dweud ei fod yn broses syml:
“Caiff sampl DNA ei gymryd drwy swab di-boen o du fewn i fochau’r ceg. Mi fydd pob canlyniad yn ddi-enw, a dim ond canlyniad cyffredinol yr ardal fydd yn cael ei adrodd. Mae’r arbrawf yn un hynod gyffrous a wnaiff gyfrannu’n sylweddol at ymchwil hanesyddol yr ardal.”
Os hoffech chi gymryd rhan , mi fydd y tîm ymchwil yng Nghlwb Rygbi COBRA ym Meifod ddydd Sadwrn yr 2il o Fawrth er mwyn cymryd samplau cyn y gêm yn erbyn Abergele. Mi fydd y gic gyntaf am 2:30yp, felly gofynnwn i unrhywun sydd eisiau cyfrannu gyrraedd y clwb yn gynnar.
Byddai’n bleser cael croesawu unrhywun sy’n addas atom ar y diwrnod. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r ymchwil unigryw mae croeso i chi gysylltu ar y rhif isod am fwy o wybodaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan y Brifysgol: www.shef.ac.uk/archaeology/research
Steffan Watkins, Alfresco - 02920 671 547 neu Steffan.watkins@boompicturescymru.co.uk
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?