Mae S4C yn falch o allu cyhoeddi y bydd modd gwylio uchafbwyntiau estynedig o rownd derfynol Tlws FA Lloegr rhwng Wrecsam a Grimsby ar y Sianel ar nos Sul, 24 Mawrth.
Mae'r achlysur yn un hanesyddol i gefnogwyr Wrecsam sydd wedi aros 140 o flynyddoedd i weld y tîm yn chwarae yn Wembley am y tro cyntaf yn hanes y clwb.
Mae S4C wedi dilyn taith Wrecsam yn ystod ymgyrch Tlws FA Lloegr. Darlledwyd eu gêm gyntaf yn y rownd gynderfynol yn erbyn Gainsborough yn fyw o'r Cae Ras ar 16 Chwefror. Ac ar y dydd Sadwrn canlynol fe ddangoswyd uchafbwyntiau ail gêm y rownd gynderfynol, ble seliodd Wrecsam eu lle yn y ffeinal.
Dywedodd Geraint Rowlands, Comisiynydd Chwaraeon S4C, "Mae hon yn gêm hanesyddol i Wrecsam ac i bêl-droed Cymru. Er nad oedd yr hawliau ar gael i ddangos y gêm yn fyw ar S4C, rydym yn falch iawn o allu dangos uchafbwyntiau estynedig ecsgliwsif o’r ffeinal hanesyddol hon.
"Mae cryn gyffro ynghylch pêl-droed yng Nghymru ar hyn o bryd, gydag Abertawe yn ennill Cwpan y Gynghrair a nawr mae Wrecsam yn mynd i Wembley am y tro cyntaf erioed. Ry'n ni'n gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dychwelyd yn cario Tlws FA Lloegr uwch eu pennau."
Bydd y rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei dangos am 7.30 yr hwyr ar ddiwrnod y gêm – dydd Sul 24 Mawrth – dan ofal tîm profiadol y gyfres Sgorio, a'r cwmni cynhyrchu Rondo.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?