Siân yn cael tocyn i LA ar gyfer dadorchuddio seren 'Wncwl Rich'
28 Chwefror 2013
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae seren i'r actor Richard Burton yn cael ei dadorchuddio ar balmant enwog Hollywood Boulevard, a diolch i raglen arbennig ar S4C mae nith yr actor o Bontrhydyfen wedi cael bod yno ar gyfer y seremoni.
Bydd Siân Owen yn Los Angeles heddiw ar ran S4C a gyda hi mae camerâu o gwmni Tinopolis. Bydd Seren Burton yn cael ei darlledu ar nos Iau 14 Mawrth, ac wrth nodi dadorchuddio'r seren eiconig mi fydd y rhaglen yn dathlu'r actor drwy atgofion rhywun oedd yn agos iawn ato.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i S4C ac i gwmni Tinopolis am fynd â fi draw ar gyfer y seremoni. Rwy'n credu byddai fy niweddar fam yn falch iawn 'mod i wedi cael mynd draw fel un o'r teulu sydd yn dal i fyw ym Mhontrhydyfen." meddai Siân. "Roeddwn i'n agos iawn at fy Wncwl Rich a dwi'n edrych ymlaen at weld aelodau o'r teulu sy'n byw yn America, rhai dydw i ddim wedi eu gweld ers sbel. A phawb yno i gofio Wncwl Rich."
Dyma'r tro cyntaf i Siân Owen ymweld â Los Angeles ers rhai blynyddoedd. Ar un adeg roedd hi'n gwneud y daith yn gyson i aros gyda'i Wncwl Rich a'i wraig Elizabeth Taylor. Mae hi'n falch iawn o gael dychwelyd i weld ei seren ar Hollywood Boulevard o'r diwedd.
"O'r diwedd! Mae'n rhaid i mi ddweud hynny. O'r diwedd mae'r garreg yn mynd lawr ar Hollywood Boulevard, a seren i'n Wncwl," meddai Siân, sy'n cytuno fod gosod ei seren drws nesa i un Elizabeth Taylor yn addas iawn. "Roedden nhw wastad moyn bod gyda'i gilydd, ac o'r diwedd dyma'r ddwy seren gyda'i gilydd."
Yn y rhaglen bydd Siân yn ein tywys i rai o'r llefydd y byddai hi yn mynd iddyn nhw gyda'i hewythr a'i wraig, yn cynnwys eu cartref a rhai o'u hoff lefydd yn LA.
Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau gyda rhai o Gymry Hollywood – Ioan Gruffydd a Michael Sheen yn eu plith – wrth iddyn nhw ystyried dylanwad Richard Burton arnyn nhw.
Ond yn fwy na dim, mi fydd yn rhaglen yn ddathliad o'r actor drwy atgofion rhywun oedd yn ei adnabod yn dda iawn.
Bydd Seren Burton i'w gweld ar S4C nos Iau 14 Mawrth am 8.25. Yna yn dilyn y rhaglen am 9.00 bydd cyfle i weld rhaglen o'r archif, yng nghwmni aelodau o deulu Richard Burton [1925-1984], a'i gyfeillion cynnar, sy'n sôn am y brawd a'r ffrind y maent yn ei gofio yn Yng Ngolau Seren Wib. A nos Sul 17 Mawrth am 10.15 bydd ail-ddarllediad o Boddi Dolwyn, rhaglen ddogfen am gynhyrchu ffilm gyntaf Richard Burton, The Last Days of Dolwyn.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?