Dau enwebiad i S4C yng Ngwobrau'r Royal Television Society
01 Mawrth 2013
Mae dwy o raglenni S4C wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau yn y Royal Television Society Programme Awards 2012.
Rhaglen ddogfen arbennig sy'n adrodd hanes Catherine a Kirstie Field, efeilliaid deunaw oed o Bryn ger Llanelli sydd yn dioddef o gyflwr niwrolegol unigryw sydd wedi eu parlysu a dwyn eu gallu i siarad ydy Fy Chwaer a Fi.
Darlledwyr y ffilm awr o hyd fel rhan o gyfres O'r Galon S4C. Roedd y rhaglen yn gyd-gynhyrchiad gyda BBC Cymru gan Bulb Films fel rhan o Boom Pictures Cymru.
Mae Fy Chwaer a Fi wedi ei henwebu yn y categori Rhaglen Ddogfen Unigol yng nghwobrau'r Royal Television Society, ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd bod y rhaglen hon hefyd wedi cyrraedd Rhestr Fer y New York Festivals Awards am raglenni sy'n rhoi sylw i achosion dynol.
Yr ail raglen i gael ei henwebu yw Teulu Tŷ Crwn. Mae'r ffilm gerddorol a gyd-gynhyrchwyd gan Apollo a Fflic fel rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C wedi ei henwebu yn y categori Drama Plant.
Darlledwyd y ffilm deuluol sy'n dilyn hanes tri phlentyn yn trio ymdopi heb eu rhieni ar S4C ddiwrnod Nadolig y llynedd.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Mae'n wych gweld rhaglenni S4C yn derbyn cydnabyddiaeth gan wobrau pwysig y Royal Television Society. Mae'r ddau enwebiad yn adlewyrchu'r amrywiaeth sydd ar ein Sianel, o adloniant ysgafn i’n plant, i raglenni dogfen treiddgar sy'n adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru. Mae’r enwebiadau hyn yn dangos bod rhaglenni Cymraeg ymysg y gorau sydd ar gael, mewn unrhyw iaith, ar unrhyw sianel. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio ar y rhaglenni hyn."
Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mawreddog ym mis Mawrth eleni.
Yn ogystal, mae deg o wasanaethau a rhaglenni S4C hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Torch Efydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe ddiwedd Ebrill.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?