01 Mawrth 2013
Enillydd Cân i Gymru 2013 yw Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, a'r band Jessop a'r Sgweiri gyda'r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys.
Gwrandewch ar y gân fuddugol ar wefan Cân i Gymru..
Y wobr i'r enillydd yw £3,500 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn y Gyfnewidfa Lô, Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, a'i darlledu'n fyw ar S4C gydag Elin Fflur a Dafydd Du yn cyflwyno.
Roedd chwe chân yn cystadlu am y wobr, a daeth y gân Mynd i Gorwen Hefo Alys i'r brig wrth iddi dderbyn y nifer uchaf o bleidleisiau, oedd yn gyfuniad o bleidlais ffôn y gwylwyr a sgôr gan y panel o feirniaid, sef Lisa Gwilym, Gai Toms, Griff Lynch a Gwilym Dwyfor.
Dywedodd Comisiynydd Adloniant S4C, Gaynor Davies, "Llongyfarchiadau mawr i Rhys, Osian a Jessop a'r Sgweiri am eu gwaith arbennig sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan wylwyr S4C a'r arbennigwyr ar banel y rheithgor.
"Mae S4C yn falch o allu cynnig cymorth eleni i'r chwech oedd ar y rhestr fer wrth iddyn nhw gynhyrchu eu cân derfynol ar gyfer y gystadleuaeth. Mae hyn nid yn unig wedi ychwanegu at brofiad y gynulleidfa ar noson y gystadleuaeth ond wedi rhoi profiad gwerthfawr i'r cyfansoddwyr sydd wedi cyrraedd y ffeinal. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.
"Roedd hi hefyd yn braf cael cyd-weithio â Y Selar a BBC Radio Cymru wrth i ni ehangu cefnogaeth y gystadleuaeth i’r Sîn Roc Gymraeg."
Yn ogystal â dewis enillydd Cân i Gymru 2013, roedd Gwobrau Y Selar a Roc a Phop BBC Radio Cymru yn cael eu cyflwyno ar y noson. Cyflwynwyd gwobrau ariannol gwerth £4,000 i rhai cerddorion sydd wedi bod yn weithgar ar y sîn eleni.
Yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y noson, cyhoeddwyd mai Y Bandana sydd wedi dod i'r brig mewn dau o gategorïau Gwobrau Y Selar 2013.
Daeth y band o Gaernarfon i'r brig yn y categori Band Byw Selar 2013 a'u cân 'Heno yn yr Anglesey' yw Cân y Flwyddyn Selar 2013. Mae Y Bandana felly wedi ennill cyfanswm o £2,000 (£1,000 am bob categori).
Bydd gweddill enillwyr Gwobrau Selar 2013 yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo yn Neuadd Hendre, Bangor, ar nos Sadwrn, 2 Mawrth.
Er na chynhaliwyd gwobrau Roc a Phop eleni, mae Cân i Gymru a BBC Radio Cymru wedi cyd-weithio i gyflwyno gwobr o £1,000 i gyfansoddwr/wyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sîn Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg.
Cafodd yr enillydd ei ddewis gan reithgor Cân i Gymru a'u dewis oedd Cowbois Rhos Botwnnog.
Yn ogystal fe gyflwynwyd gwobr o £1,000 i enillwyr categori Band a Ddaeth i Amlygrwydd Roc a Phop 2012 sef Sŵnami, wnaeth berfformio'n fyw ar y noson.
Bydd modd gwylio noson Cân i Gymru 2013 eto ar S4C nos Sul 3 Mawrth am 10.15. Neu mae'r rhaglen ar gael i'w gwylio unrhyw bryd ar-lein ar s4c.co.uk/clic
Diwedd