Mae S4C wedi lansio cynllun i ddatblygu awduron a chyfarwyddwyr newydd Cymraeg i wneud dwy ffilm fer fydd yn cael eu darlledu ar y Sianel.
Mewn partneriaeth â phrosiect It’s My Shout, mae S4C yn gwahodd ceisiadau gan gyfarwyddwyr ac awduron erbyn canol Mawrth gyda’r bwriad o ddewis dau awdur a dau gyfarwyddwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth prosiect It’s My Shout ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed, a dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod mewn partneriaeth lwyddiannus gyda BBC Cymru Wales i ddod o hyd i awduron, cyfarwyddwyr, actorion a chriw talentog wrth gynhyrchu ffilmiau byr. Mae ychwanegu S4C fel partner allweddol yn ehangu’r prosiect, sydd hefyd yn cydweithio â sefydliadau addysg ac hyfforddiant yn ogystal ag awdurdodau lleol drwy Gymru.
Bydd cyfanswm o wyth ffilm yn cael eu cynhyrchu eleni, dwy yn y Gymraeg, a chwech yn Saesneg. Bydd y ddwy ffilm Gymraeg yn cael eu creu mewn dwy ardal lle mae S4C yn cynnal digwyddiadau cymunedol eleni, sef y Bala yng Ngwynedd a Senghennydd yn ardal Caerffili.
Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd:
“Mae hwn yn gyfle gwych i gyfarwyddwyr ac awduron newydd – cyfle i ddatblygu eu sgiliau a gwybod y bydd y gwaith yn cael ei ddarlledu ar S4C ar ddiwedd y prosiect. Ond mae’n gyfle gwych i S4C hefyd - i ddatblygu talent Cymraeg a fydd yn gallu gweithio yn y diwydiant am flynyddoedd i ddod.
“Mae It’s My Shout wedi’i hen sefydlu yn y math yma o gynllun felly mae’n ddelfrydol inni allu cydweithio gyda nhw i ddatblygu pobl newydd yn y ffordd yma. Mae’n golygu ein bod yn gallu cydweithio gydag ystod eang o bartneriaid eraill hefyd - o gynghorau lleol i hyfforddwyr a rhai sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol. Mae’n bleser i ni fod yn rhan o gynllun a fydd, dwi’n gobeithio, yn cyfrannu at feithrin cenhedlaeth newydd o dalent Cymraeg.”
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol It’s My Shout Productions, Roger Burnell:
“Rydym wrth ein boddau bod S4C wedi partnera gydag It’s My Shout i gynnig y cyfle cyffrous yma i awduron a chyfarwyddwyr Cymraeg. Wrth weithio gyda darlledwyr fel BBC Cymru Wales ac S4C drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg rydym yn hapus iawn i allu cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddarganfod a meithrin talent newydd.”
Diwedd
Nodiadau:
Cewch ragor o fanylion am It’s My Shout yma - http://www.itsmyshout.co.uk/
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?