15 Mawrth 2013
Mae S4C wedi cyhoeddi rhes o gyfresi gwreiddiol newydd am fyd natur – gyda’r naturiaethwr Iolo Williams yn arwain y gynulleidfa drwy ryfeddodau amrywiol o bob rhan o’r byd.
O anifeiliaid prin i fywydau cudd trychfilod tanddaearol, bwriad y Sianel yw darparu rhaglenni fydd yn codi chwyddwydr at y byd rhyfeddol hwn a'i ddangos yn ei holl ogoniant.
Mae'r cwbl yn cychwyn gyda chyfres arbennig o'r enw Natur: Y Gwanwyn. Bydd pum rhaglen i'r gyfres a'r rheiny yn cael eu darlledu bob nos am 8.25 rhwng nos Lun, 25 a nos Wener, 29 Mawrth gyda Iolo yn dilyn y tymor newydd wrth iddo flaguro.
Bwriad y gyfres yw rhoi darlun o'r hyn sy'n digwydd ym myd natur Cymru ar hyn o bryd. Bydd Iolo yn ymweld â nifer o ardaloedd a llefydd o ddiddordeb ledled Cymru yng nghwmni pob math o arbenigwyr.
"Mi fyddwn ni'n mynd i Ddolydd Hafren i weld sgwarnogod a phob math o adar y dŵr," Meddai'r gŵr o Lanwddyn sy'n cyflwyno rhaglenni natur ers dros ddeng mlynedd. "Mi fyddwn ni'n mynd am dro i Ynys Môn yng nghwmni Manon Keir i weld y wiwer goch ac mi fydda i'n mynd i hen fwynglawdd aur ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda'r ecolegydd, Dafydd Roberts."
Dwy gyfres gyffrous arall fydd yn dod i'r sgrin yn ystod y flwyddyn nesaf yw Cuddwyllt Cymru a Tyrchwyr. Bydd y naill yn dilyn Iolo wrth iddo grwydro i edrych am anifeiliaid sydd wedi eu colli o Gymru, a'r llall yn gydgynhyrchiad gyda'r BBC fydd yn sbecian ar fywydau anifeiliaid sydd yn byw tu hwnt i lygaid dyn, o dan y ddaear.
Bydd Iolo'n lapio'n gynnes wrth iddo gychwyn ar un antur ychydig ymhellach o adref ar gyfer y gyfres, Artig Gwyllt. Gan fentro i rai o fannau mwyaf anghysbell y byd yng nghylch yr Artig tybed a fydd ambell i arth wen neu lwynog yr Arctig yno i gadw cwmpeini iddo?
Cyffrous hefyd yw'r cynlluniau ar gyfer cyfres natur aml-blatfform newydd i blant. Bydd Gwylltio yn rhoi cyfle i blant o wahanol gynefinoedd ledled Cymru i chwilio am fywyd gwyllt gan ddefnyddio App bywyd gwyllt arloesol. Bydd yr App3D sy'n cyd-fynd â'r gyfres yn darparu gwybodaeth am gynefinoedd Cymru a'r creaduriaid sy'n byw ynddyn nhw.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Mae'n beth braf bod cymaint o amrywiaeth o raglenni byd natur yn mynd i fod ar S4C. Mi fydd yn wych gweld Iolo Williams nôl ar S4C eto, gan ddod a’i bersonoliaeth a’i arbenigaeth aton ni. Drwy’r cyfresi hyn fe fyddwn ni’n cael golwg arbennig ar fyd natur ar ei orau drwy’r byd, gan gynnwys y rhyfeddodau hynny sy’n digwydd yma yng Nghymru. Fe fyddwn hefyd yn edrych am gyfleoedd i ddatblygu cynnwys digidol ychwanegol fel yr App gwych fydd yn ganolog i'r gyfres Gwylltio."