Rhaglen Pethe S4C a Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ar y cyd
13 Mai 2013
Heddiw (ddydd Llun 13 Mai) bydd Llenyddiaeth Cymru ac S4C yn cyd-gyhoeddi pa lyfrau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.
Bydd y cyhoeddiad yn cael ei ddarlledu ar wefan Pethe - s4c.co.uk/pethe a gwefan Gwobr Llyfr y Flwyddyn llyfryflwyddyn.org ddydd Llun, 13 Mai am 2.00pm.
Bydd Alun Gibbard, Cadeirydd y panel beirniadu Cymraeg yn trafod y Rhestr Fer gyda Lisa Gwilym y noson honno (nos Lun 13 Mai) ar raglen Pethe S4C am 9.30pm.
Meddai Emyr Gruffudd, cynhyrchydd rhaglen Pethe:
"Mae 'Pethe' yn croesawu'r cyfle i gydweithio hefo Llenyddiaeth Cymru, yr awduron a'r cyhoeddwyr , ar gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, ac yn edrych ymlaen at ddarlledu rhaglen arbennig ar noson y gwobrwyo ym Mis Gorffennaf. Byddwn hefyd yn darlledu pod-lediadau cyson ar ein gwefan rhwng rŵan a hynny yn trafod y llyfrau sydd ar y rhestr fer."
Bydd naw llyfr Cymraeg ar y Rhestr, tri llyfr mewn tri chategori - Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Bydd rhestr fer o naw llyfr Saesneg yn cael eu cyhoeddi hefyd.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i S4C weithio gyda Llenyddiaeth Cymru i gyhoeddi'r rhestr yr un pryd. Gweinyddir y wobr gan Llenyddiaeth Cymru.
“Gyda pherthynas mor gref rhwng llenyddiaeth a theledu yng Nghymru, mae’n dda bod rhaglen Pethe S4C yn gallu partnera gyda Llenyddiaeth Cymru i ddathlu pinacl llyfrau Cymru fel hyn a thynnu sylw'r gynulleidfa at rai o'r llyfrau amrywiol a difyr sydd wedi eu cyhoeddi yn y deuddeg mis diwethaf.”
Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
"Nod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yw hyrwyddo llyfrau Cymraeg a Chymreig, dathlu talent awduron Cymru ac annog trafodaeth am ein llenyddiaeth. Mae'r twf digidol a’r pwyslais ar hygyrchedd gwybodaeth yn rhoi'r cyfle i ni eleni ddatgan Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar-lein am y tro cyntaf erioed. Trwy gydweithio â rhaglen Pethe, S4C a defnyddio platfform digidol i gyhoeddi’r rhestr fer, rydym yn sicr y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn teimlo bwrlwm y gystadleuaeth ac yn ymuno yn y drafodaeth."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?