Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 – S4C yn dilyn tîm Cymru
23 Mai 2013
Bydd S4C yn galluogi dilynwyr rygbi Cymru i ddilyn hynt a helynt y tîm dan 20 yn ystod Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 yn Ffrainc ym mis Mehefin.
Bydd uchafbwyntiau o ddwy gêm gynta’r tîm, yn erbyn Samoa a’r Alban, yn cael eu dangos ar wasanaeth ar-lein S4C, Clic (s4c.co.uk/clic) ar 5 a 9 Mehefin. Yna ar 13 Mehefin, bydd gêm allweddol Cymru yn erbyn Yr Ariannin yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C. Bydd y gêm yn dechrau am 3.45.
Os bydd Cymru’n llwyddo i fynd drwodd i’r rownd gynderfynol a’r rownd derfynol ar ddydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Sul 23 Mehefin bydd S4C yn dangos y gemau yma hefyd yn fyw.
Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, "Bydd llawer o ddiddordeb yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin yn enwedig os bydd parhad Cymru yn y twrnamaint yn y fantol. Bu tîm Dan 20 Cymru bron ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ac ym Mhencampwriaeth Dan 20 y Byd y llynedd llwyddodd tîm Cymru i guro Seland Newydd cyn colli i’r Crysau Duon nes ymlaen yn y rownd gynderfynol. Y cwestiwn mawr yw, a fydd y Cymry ifanc yn gallu gwella ar hynny eleni."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?