29 Mai 2013
Cyd-weithio "yn hanfodol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni"
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yr iaith Gymraeg S4C wedi cyhoeddi cytundeb partneriaeth allweddol fydd yn arwain at gyd-weithio rhwng y sefydliadau yn y blynyddoedd nesaf er mwyn cefnogi'r talentau creadigol gorau yng Nghymru.
Mae’r ddau sefydliad wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth sy’n amlinellu eu hymrwymiad cyfrannol i ymwneud yn gyhoeddus â’r celfyddydau yng Nghymru, er budd y gynulleidfa a’r sector greadigol.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:
"Dylai'r bartneriaeth hon fod yn enghraifft o ymarfer da i sefydliadau eraill yng Nghymru. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni heddiw mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n uno ac yn cydweithio ac rydym yn falch iawn felly o arwyddo'r Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
"Wrth wneud hyn gallwn rannu'n cryfderau a'n syniadau, a chreu prosiectau fel Y Labordy er mwyn cefnogi'r unigolion creadigol talentog sydd yma yng Nghymru.
"Rydym angen creu'r cyfloed hyn er mwyn i'r awduron ac unigolion eraill sy'n rhan o'r tîm cynhyrchu fynd ati i greu rhaglenni, dramâu, a sgriptiau radio gwych ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt.
Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae diwylliant, y celfyddydau a darlledu cyhoeddus yn bwysig i bobl Cymru. Rydym ni, Cyngor Celfyddydau Cymru ac S4C yn fuddsoddwyr arwyddocaol mewn creadigrwydd sy'n cael ei ariannu yn gyhoeddus yng Nghymru. Felly mae'n ddyletswydd arnom ni i greu rhagor o gyfleoedd ac i gefnogi a magu'r creadigrwydd hwn. Wrth gyd-weithio rydym yn gobeithio darganfod ffyrdd o greu cyfleoedd newydd ar gyfer prosiectau cyffrous fydd y cynulleidfaoedd yn medru eu mwynhau ar sawl platform darlledu ac ar-lein."
Ar yr un pryd â chyhoeddi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth mae S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi datgelu'r cynllun cyntaf i ddatblygu o'r bartneriaeth newydd - prosiect sgriptio uchelgeisiol o'r enw Y Labordy.
Y prosiect cyntaf i ddatblygu o’r bartneriaeth yw cynllun sgriptio uchelgeisiol dan y teitl Y Labordy.
Bydd Y Labordy yn cynnig cyfle i bedwar unigolyn arbennig i archwilio a datblygu sgiliau ysgrifennu drama ar gyfer teledu, ffilm, y theatr a radio. Noddir y cynllun gan Creative Skillset Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru.
Dros gyfnod o wyth mis bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael profiad llygad-y-ffynnon o gysgodi ysgrifenwyr ar gynyrchiadau sydd ar waith, mynychu cyfres o ddosbarthiadau meistr gan bobl broffesiynol y diwydiant, gwario pedwar diwrnod mewn tri gweithdy preswyl a chael eu mentora trwy gydol y prosiect gan ymarferwyr a fydd yn ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau i ysgrifennu i ddarlledwyr tu allan i’r DU.
Ar ddiwedd y prosiect bydd gan y pedwar y sgiliau angenrheidiol i gyflwyno script broffesiynnol a pharod i benaethiaid comisiynu yng Nghymru, y DU a’r farchnad ryngwladol.
Drwy brosiectau o’r math yma, a thrwy rannu syniadau, gwybodaeth, arbenigedd ac ymchwil, mae’r ddau sefydliad yn gobeithio cefnogi’r talentau creadigol gorau yng Nghymru, gan wneud Cymru’n fwy egnïol, cynhwysol a chanddi economi fwy deinamig. Bydd y ddealltwriaeth hefyd yn golygu bydd buddsoddiadau o gronfeydd S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyrraedd cynulleidfa ehangach ac yn creu effaith economaidd gryfach.
Nod arall ar y cyd yw archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio technolegau digidol i wneud y cysylltiad rhwng prosiectau celfyddydol a’r gynulleidfa.
Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys yn S4C:
“Mae cyfoeth o awduron yma yng Nghymru ac mae’n hanfodol ein bod ni’n eu harfogi gyda’r sgiliau maen nhw angen i fynd ati i greu rhaglenni, ffilmiau, rhaglenni radio a dramâu rhagorol. Bydd dysgu wrth bobl broffesiynol yn y diwydiant a mynychu dosbarthiadau meistri yn rhoi profiad anhygoel i’r pedwar, yn ehangu eu gorwelion ac yn dangos iddynt sut mae mynd ati i i lwyddo ym myd darlledu yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n gyffrous iawn cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar y cynllun hwn fydd yn paratoi’r genhedlaeth nesaf o awduron.”
Meddai Nick Davies, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrth eu boddau gyda'r cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda S4C i ddatblygu'r cynllun cyffrous hwn. Mae'r ddau barter yn gwybod bod gennym ni gyfoeth o bobl dalent yn ysgrifennu yn y Gymraeg. Fodd bynnag nid oes wastad nifer fawr o gyfleoedd i rai o'r awduron sgriptiau hyn sydd ar ddechrau ei siwrnai i ddatblygu a hogi eu crefft. Bydd Y Labordy yn rhoi cyfle i rai o'r awduron hyn - boed hynny ym myd theatr, teledu, ffilm neu radio - i ddatblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd, gan weithio trwy gyfrwng Cymraeg gan gadw rhagolwg rhyngwladol."