30 Mai 2013
Bwriad prosiect DymaFi.tv yw cael pobl ifanc Cymru i ffilmio un diwrnod yn eu bywydau.
"Mae unrhyw beth sydd yn rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn bwysig, ac mae'r syniad tu nol i DymaFi.tv yn un uchelgeisiol a chyffrous." Meddai DJ Radio 1 Huw Stephens, sy'n llysgennad i'r prosiect.
"Mae'n bleser cael cefnogi'r digwyddiad hanesyddol a diddorol yma."
Mae prosiect DymaFi.tv yn gofyn i bobl ifanc sydd rhwng 13 a 18 oed ffilmio diwrnod yn eu bywyd ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin.
Daeth y prosiect i fodolaeth yn dilyn ymgyrch See Me / Dyma Fi gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler. Mae prosiect See Me / Dyma Fi yn ceisio chwalu ystrydebau am bobl ifanc Cymru ac yn trio gwella'r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu portreadu, yn enwedig yn y cyfryngau.
Meddai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae'n bryd i ni i roi diwedd ar y labeli negyddol y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn wynebu bob dydd.
“Bwriad ymgyrch Dyma Fi yw dinistrio’r stereoteipiau negyddol ac i hyrwyddo delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc, i'w cynrychioli mewn modd cyfrifol a chytbwys yn yr holl waith a wnawn, ac i fod yn esiampl i wledydd eraill yn y DU ac ar draws y byd.
"Rwy'n falch iawn bod S4C a Cwmni Da wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i'r materion hyn drwy roi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a datblygu sgiliau ffilmio er mwyn rhannu eu storïau eu hunain, yn eu geiriau eu hunain ar DymaFi.tv. Fy nod fel Comisiynydd Plant Cymru yw i alluogi Cymru i fod yn wlad lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i fyw bywydau diogel a hapus. Y ffordd orau o gyflawni hyn yw rhoi'r offer i bobl ifanc i allu cymryd rhan mewn cymdeithas. Mae angen i ni ddathlu agweddau cadarnhaol o dyfu i fyny yng Nghymru, a byddwn yn annog pobl ifanc i rannu eu straeon a gwneud y gorau o'r cyfle gwych hwn."
Bydd y ffilmiau mae'r bobl ifanc yn eu creu yn cael ei dangos ar wefan DymaFi.tv. ac mae yno hefyd glipiau ffilm sy'n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i greu ffilmiau fel hyn, a hynny heb fod angen offer drud na chymhleth. Noddir gwefan DymaFi.tv gan Gronfa Ddigidol S4C.
Mae FILMCLUB Cymru ar y cyd â Cwmni Da hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai ar greu ffilmiau mewn Ysgolion Uwchradd ledled Cymru.
Mae nifer o sefydliadau wedi cydweithio ar brosiect DymaFi.tv gan gynnwys S4C, Swyddfa'r Comisiynydd Plant, FILMCLUB Cymru, Huw Stephens, Mudiad Ieuenctid Yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, Cwmni Da, Gwobr Dug Caeredin a Vibe Works.
Bydd nifer o'r clipiau ffilm hyn yn cael eu cyfuno i greu ffilm a gaiff ei darlledu ar S4C ym mis Tachwedd. Y gobaith yw y bydd y ffilm yn rhoi darlun gonest o fywydau pobl ifanc yng Nghymru heddiw – yn eu geiriau, neu ffilmiau eu hunain.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys i S4C: "Lle i greu yw DymaFi.tv. Lle i bobol ifanc wylio, gwneud a rhannu ffilmiau gwreiddiol sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae pobol ifanc yn gwneud gymaint o bethau cyffrous yn ystod eu bywydau bob dydd a bwriad DymaFi.tv yw cynnig cyfle iddyn nhw ddweud eu stori eu hunain drwy gyfrwng creadigol ffilm. Wrth rannu a gwylio ffilmiau ar DymaFi.tv mae cyfle i ni glywed lleisiau newydd a chael cip olwg ar fywydau nad ydyn ni'n aml yn eu gweld ar y teledu.
“Rwy'n edrych ymlaen yn arw i weld yr ymateb i wefan DymaFi.tv a hefyd i weld sut ymateb fydd i'r ymgyrch i ffilmio 24 awr ym mywydau pobol ifanc ar ddydd Sadwrn 22ain Mehefin. Dyma'r tro cyntaf i ni wneud hyn ar S4C a gyda chymorth yr holl bartneriaid ar y project rwy'n ffyddiog y cawn gynnwys arbennig."
Caiff prosiect DymaFi.tv ei lansio yn swyddogol ddydd Iau 30 Mai yn Eisteddfod yr Urdd ar Fws DymaFi.tv fydd yn croesawu pobl ifanc ac yn cynnig cyfle iddynt greu ffilmiau byr gan ddefnyddio camerâu, ffonau a chyfrifiaduron Apple Macs.
Meddai Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol gyda Cwmni Da: "Mae recordio fideo yn ail natur i bobl ifanc heddiw ac ry' ni'n gwbl hyderus y bydd nifer eisiau cymryd rhan yn y prosiect arloesol yma. Mi fydd gwefan DymaFi.tv yn cynnig cyngor ar sut i wella sgiliau ffilmio.
"Rydym ni wedi derbyn dwsinau o gyfraniadau gwych yn barod, a'r rheiny ar ffurf fideo camcorder, ar gamerâu, ac wrth gwrs mae llawer wedi cael ei llwytho o ffônau symudol. Mae gan bawb stori i'w hadrodd - 'da ni isio clywed rhai pobl ifanc Cymru heddiw."
Darlledir ffilm DymaFi.tv ar S4C ym mis Tachwedd.
Diwedd