18 Mehefin 2013
Mae ymgyrch tîm rygbi Cymru Dan 20 yn mynd o nerth i nerth ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013, ac mae modd i chi eu dilyn pob cam i'r pen ar S4C.
Mae'r Cochion wedi ennill pob un o'u gemau yn y gystadleuaeth – yn erbyn Samoa, Yr Alban a'r Ariannin – i sicrhau eu lle ymhlith y pedwar tîm Dan 20 gorau yn y byd. Dim ond un gêm, ac un tîm, sy'n sefyll rhyngddyn nhw â'r rownd derfynol.
De Affrica yw eu gwrthwynebwyr yn Stade de la Rabine, Vannes yn Ffrainc ar gyfer y rownd gynderfynol fawr heddiw (prynhawn Mawrth, 18 Mehefin). Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C yng nghwmni Sarra Elgan, Lyn Davies a Rhodri Gomer Davies. Mae'r rhaglen Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013 yn dechrau am 5.00 y prynhawn gyda'r gic gyntaf am 5.15.
Mae eu chwarae hyd yma wedi creu argraff ar y cyn canolwr proffesiynol Rhodri Gomer Davies, "Maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda yn y tair gêm: yn sicrhau pwynt bonws yn erbyn Samoa, ac ennill mewn prawf anodd iawn yn erbyn Yr Ariannin. Roedden nhw wedi dangos cryn gymeriad er mwyn ennill y gêm honno. Roedd y perfformiad amddiffynnol yn arbennig, ond cawson nhw ddim llawer o feddiant i allu dangos be maen nhw'n gallu ei wneud yn yr ymosod."
Yn arwydd o gryfder y to ifanc, dyma'r ail dro yn olynol i Gymru gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth ryngwladol. Ar ôl colli yn erbyn Seland Newydd y tro diwethaf, a fydd y Cochion ifanc yn gallu camu ymhellach y tro yma?
"Fe all Cymru dynnu hyder o'r ffaith fod Yr Ariannin wedi curo De Affrica yn barod eleni yn ystod eu paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth hon. A dwi'n siŵr eu bod nhw'n bles nad oes rhaid iddyn nhw wynebu'r Crysau Duon eto," meddai Rhodri Gomer Davies. "Mi allan nhw fod yn hyderus iawn, ac ar adegau maen nhw wedi dangos y math o rygbi maen nhw yn gallu chwarae - gyda Rhodri Williams, Jordan Williams ac Hallam Amos yn dangos beth maen nhw'n gallu ei wneud. Dwi'n hyderus y gallan nhw guro De Affrica."
Beth bynnag fydd sgôr y gêm ddydd Mawrth, bydd S4C yn dilyn y bois i'r pen gyda darllediad byw o un ai'r rownd derfynol, neu'r gêm am y trydydd safle. Canlyniad yr ornest yn erbyn De Affrica fydd yn penderfynu ym mha gêm fydd Cymru yn chwarae ar ddiwrnod ola'r gystadleuaeth - dydd Sul 23 Mehefin.
Mae gwefan Rygbi S4C – s4c.co.uk/rygbi – yn cynnwys uchafbwyntiau pob gêm Cymru Dan 20 yn y gystadleuaeth hyd yma, ac adroddiadau o du ôl y llenni gyda'r garfan.
Diwedd
Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013
Gêm gynderfynol: Cymru v De Africa
Prynhawn Mawrth 28 Mehefin 5.00, S4C
Isdeitlau Saesneg