Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau Cymraeg i ddarlledu uchafbwyntiau dwy gêm Abertawe yn 3edd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Mae'r Elyrch yn wynebu clwb Malmö FF o Sweden yn y gystadleuaeth, gyda'r cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn Stadiwm Liberty nos yfory (nos Iau 1 Awst). Bydd rhaglen Sgorio yn crynhoi uchafbwyntiau'r gêm ar S4C am 10.35 yr un noson.
Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno'r rhaglen gyda sylwebaeth gan Bryn Tomos, a'r dadansoddi yng ngwmni cyn-gôl-geidwad Abertawe a Chymru, Dai Davies ac Osian Roberts, aelod o dîm hyfforddi tîm pêl-droed Cymru.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae wythnos yn union wedi'r gyntaf, ar nos Iau 8 Awst, gyda'r gêm ym Malmö y tro hwn. Bydd uchafbwyntiau'r gêm honno yn cael ei dangos ar Sgorio am 11.00 yr un noson.
Bydd y ddwy raglen uchafbwyntiau ar gael i'w gwylio ar-lein hefyd, ac ar alw am 30 diwrnod ar s4c.co.uk/clic
Daw cyfle cynta Abertawe i chwarae’n Ewrop ers dros ugain mlynedd ar ôl iddyn nhw godi Cwpan Capital One yn Wembley’r tymor diwethaf.Fe fydd rheolwr yr Elyrch, Michael Laudrup yn gobeithio am y dechrau gorau posib i’w ail dymor wrth y llyw. Ond bydd Malmö yn llawn hyder ar ôl taro naw gôl heibio i Hibernian o’r Alban yn y rownd ddiwethaf.
Sgorio: Abertawe v Malmö FF
Nos Iau 1 Awst 10.35
Sgorio: Malmö FF v Abertawe
Nos Iau 8 Awst 11.00
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?