08 Awst 2013
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013, fe fydd y cyfle cynta' erioed i’r cyhoedd gael blas ar y gyfres dditectif rhyngwladol Y Gwyll Hinterland. Bydd un o’r awduron a’r prif actorion yn datgelu mwy am y gyfres hirddisgwyliedig – a bydd y gynulleidfa’n cael y cipolwg cyhoeddus cyntaf ohoni wrth i glipiau ecsgliwsif gael eu chwarae.
Yn Theatr S4C, ar faes y Brifwyl, am 1 o'r gloch brynhawn Iau 8 Awst, bydd sesiwn awr arbennig yn trafod y cynhyrchiad gyda'r prif actorion Richard Harrington a Mali Harries, ynghyd â'r Uwch Gynhyrchydd, Ed Thomas. Yn rhan o'u sgwrs bydd fideo arbennig yn dangos blas o'r hyn sydd o'n blaenau ar S4C ym mis Hydref, pan fydd cyfres Y Gwyll Hinterland yn cael ei darlledu am y tro cyntaf unrhyw le yn y byd.
Dewiswyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru i gynnal y sesiwn gyntaf o’r fath – cyn i sesiynnau rhyngwladol tebyg gael eu cynnal yn Llundain a Cannes. A bydd y premier yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ym mis Hydref.
Angharad Mair fydd yn cadeirio'r sgwrs, yn holi'r actorion am eu cymeriadau a'r stori; yr her o ffilmio mewn dwy iaith; a'r gwaith ffilmio a ddigwyddodd yn llwyr yng Ngheredigion, a sut mae'r dirwedd yn cyfrannu at naws a golwg y cynhyrchiad ar y sgrin.
Bydd Comisiynydd Cynnwys S4C, Gwawr Martha Lloyd yn rhan o'r drafodaeth hefyd, i esbonio pwysigrwydd y cynhyrchiad mentrus sydd wedi ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer ei werthu i ddarlledwyr rhyngwladol. Mae'n cael ei werthu gan gwmni ALL3MEDIA International ac mae BBC Cymru Wales, BBC 4 a'r darlledwr DR o Ddenmarc eisoes wedi ymrwymo i ddangos y ddrama yn 2014.
Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, "Mae llawer o drafod wedi bod eisoes am Y Gwyll Hinterland, a nawr, wrth i ni nesáu at y darllediad ar S4C ym mis Hydref, mae'n gyffrous iawn cael dangos clipiau o'r ddrama am y tro cyntaf. Bydd y clipiau yn cyflwyno dirgelwch a naws unigryw cyfres Y Gwyll Hinterland a fydd yn siwr o gyffroi a chodi awch i weld mwy o'r gyfres yn hwyrach eleni."
Dros y misoedd nesa', bydd sesiynau yn cael eu cynnal i ddenu sylw newyddiadurwyr ac aelodau o'r diwydiant darlledu. Bydd y gyntaf yn digwydd yn adeilad BAFTA yn Llundain ac yna ngŵyl Mipcom yn Cannes, Ffrainc - gŵyl sy'n farchnad i ddarlledwyr byd eang brynu a gwerthu rhaglenni.
Ond Eisteddfod Genedlaethol 2013 fydd y lleoliad cyntaf i ddangos blas o'r ddrama sydd i ddod, ac S4C fydd y lle cyntaf i wylio Y Gwyll Hinterland wrth i'r gyfres ymddangos ar y sgrin ym mis Hydref.
Byddwch yno: Sesiwn Y Gwyll Hinterland
Prynhawn Iau 8 Awst 1.00
Theatr S4C, Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau
Mae Y Gwyll Hinterland yn gynhyrchiad gan Fiction Factory i S4C mewn partneriaeth ag ALL3MEDIA International, Tinopolis a BBC Cymru Wales.
Diwedd