15 Awst 2013
Mae olion teml Rufeinig unigryw wedi eu darganfod wrth i griw ffilmio ar gyfer cyfres archeoleg newydd ar S4C.
Cwmni teledu Trisgell ddaeth ar draws y trysor hanesyddol hwn yn Nyffryn Conwy wrth ffilmio ar gyfer cyfres archeoleg newydd a gaiff ei darlledu ar S4C flwyddyn nesaf.
Mae'r canfyddiad eisoes wedi newid hanes y fro honno, ac fe fydd yn gwyrdroi'r ffordd y mae haneswyr yn dehongli safleoedd defodol, cynnar Cymru.
Bu tîm o archeolegwyr a gwirfoddolwyr wrthi'n cloddio mewn cae ar fferm Llwydfaen, Dyffryn Conwy, yn ystod wythnos 29 Gorffennaf i 2 Awst eleni, yn chwilio am yr hyn a dybid oedd yn eglwys Normanaidd, goll. Daeth olion crasu i'r amlwg yn ystod Haf poeth 2006, ac fe'u gwelwyd gan Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a oedd yn awgrymu'n gryf mai olion eglwys ganoloesol oedd wedi eu cuddio o dan y pridd. Ond, wrth dynnu'r tywarchod a chrafu'r llwch o'r seiliau, fe ddaeth yn amlwg mai adeilad llawer hyn oedd yno.
Erbyn hyn, wedi craffu ar y canfyddiadau ac astudio'r dystiolaeth, mae arbenigwyr yn argyhoeddedig mai safle Rhufeinig oedd hwn. Er bod tipyn o waith i'w wneud eto wrth ddehongli'r olion mae'r adeilad yn ymdebygu i demlau Rhufeinig eraill yn Lloegr. Mae enghreifftiau o'r math yma o adeilad yn brin iawn yng Nghymru.
Meddai Morgan Hopkins, cyfarwyddwr y gyfres a chyfarwyddwr cwmni Trisgell:
"Roeddwn ni'n eitha’ sicr o ddod o hyd i eglwys Normanaidd yn Llwydfaen ond daeth hi'n amlwg o'r canfyddiadau, ac wrth gloddio, mai adeilad Rhufeinig oedd yno. Mi gawson ni hyd i chwe darn arian Rhufeinig, darnau di-ri o lechi a hoelion Rhufeinig a darnau o grochenwaith Rhufeinig. Y tebygolrwydd yw mai teml oedd yma, teml a godwyd yn y bedwaredd Ganrif ond yn sicr, mae'n hollol unigryw yma yng Nghymru.
Mae'n eithriadol o bwysig bod y gyfres hon yn cael ei gwneud yn y Gymraeg, y gyfres gyntaf o'i bath. Ein bwriad yw cyflwyno gogwydd Gymraeg a Chymreig ar ddarganfyddiadau archeolegol ein gwlad, a gobeithiwn y bydd hyn yn ysgogi pobl i gymryd diddordeb yn yr hanes sy'n cael ei ddadorchuddio yma bob blwyddyn. Os oes gan unrhyw un rhyw nodwedd ar eu tir yr hoffent iddo gael ei archwilio gennym, plîs cysylltwch gyda S4C neu gwmni Trisgell."
Fe fydd cwmni Trisgell a'i dîm o wirfoddolwyr yn cloddio safleoedd hollol newydd eraill ledled Cymru yn ystod yr Haf, ac mae disgwyl y bydd rhagor o ganfyddiadau yn cael eu datgelu, yn ychwanegu at ein gwybodaeth ac yn lliwio hanes Cymru.
Bydd y gyfres a gaiff ei chyflwyno gan yr actor a'r archeolegydd Iestyn Jones yn fenter newydd, gyffrous i S4C ac fe'i darlledir yn 2014.