21 Awst 2013
Seren ifanc Abertawe, Ben Davies fydd dan sylw mewn rhaglen ddogfen newydd a gaiff ei darlledu ar S4C heno (21 Awst) am 9.30pm.
Bu 2012/2013 yn dymor anhygoel i Ben Davies, y pêl-droediwr ifanc o Gwm Nedd. O fewn cwta fis, roedd y llanc 19 oed wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr i'w glwb cartref, Abertawe, ac wedi cael y fraint o wisgo crys coch Cymru wrth chwarae dros ei wlad. Cawn gip unigryw ar fywyd y seren ifanc ar Ben Davies, rhaglen arbennig ar S4C nos Fercher, 21 Awst.
Gadawodd Ben Davies Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe yn 16 oed wedi iddo lofnodi cytundeb prentisiaeth gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe. Bu'n hyfforddi gyda'r ieuenctid yno cyn cael cyfle i ddangos ei ddoniau a chwarae dros yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair ym mis Awst 2012, wedi i amddiffynnwr chwith arferol y tîm, Neil Taylor, dorri ei bigwrn.
"Ar y pryd roeddwn i'n gorfod mynd i mewn i'r gêm heb wybod lot, ond pan ddaeth y cyfle roedd rhaid i fi jyst wneud fy ngorau," meddai Ben, sydd yn byw gartref yn Nhonna gyda'i fam a'i dad a'i chwaer. "Roeddwn i'n gwybod na fyddwn i byth yn cael y cyfle eto o bosib."
Yn dilyn y gêm honno aeth Ben yn ei flaen i sgorio ei gôl gyntaf i'r Elyrch mewn gêm yn erbyn Stoke City ym mis Ionawr 2013, yn 19 oed. O ganlyniad, fe yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio dros Abertawe yn yr Uwch Gynghrair. Mis yn ddiweddarach roedd yn chwarae yn Wembley ac yn rhan allweddol o dîm Abertawe enillodd Gwpan Capital One.
"Byddwn i'n hapus i chwarae dros Abertawe mewn unrhyw adran a dweud y gwir, ond mae cael chwarae iddyn nhw yn yr Uwch Gynghrair, o mae fe jyst yn anhygoel" meddai Ben ar ddechrau'r tymor newydd eleni.
"Rwy'n edrych ymlaen at y tymor yma, ac yn edrych ymlaen at fy ngêm ddarbi gyntaf wrth i ni chwarae yn erbyn Caerdydd. Dylai fod yn ddiwrnod grêt yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau Tachwedd. Bydd hi'n gêm galed ond os wnawn ni'n gorau rwy'n siŵr y gallwn ni 'neud e’."
Ond mae'n debyg mai uchafbwynt gyrfa Ben hyd yn hyn ydy chwarae dros ei wlad. "Hwnna oedd teimlad gorau fy mywyd i, sefyll ar y cae yn fy nghrys Cymru; do'n i ddim cweit yn gallu credu fe. Ond ar ôl i'r chwiban fynd ti'n gorfod meddwl amdano fel unrhyw gêm arall, rhoi'r pen i lawr a chanolbwyntio."
Wedi corwynt o flwyddyn felly, ydy Ben wedi arfer â'r enwogrwydd a'r camerâu?
"Mae fe dal yn od ond mae ffrindiau fi wastad yn cadw fy nhraed i ar y ddaear - maen nhw'n cael digon o sbort pan dyw'r camerâu ddim yn gadael llonydd i fi! Ond job fi ydy hwn yn y pen draw a dyma beth dwi wastad wedi isie'i wneud, felly gobeithio ga’ i gario 'mlaen i wneud e am amser hir eto."
Mae Ben Davies ymlaen nos Fercher 21 Awst am 9.30pm ar S4C. Mae isdeitlau Saesneg ar gael a gall gwylwyr wylio'r rhaglen ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod wedyn hefyd.