05 Medi 2013
Mae S4C wedi lansio ei hamserlen ar gyfer yr hydref gan ddweud y bydd safon y syniadau a'r cynyrchiadau yn gwneud y misoedd nesaf yn rhai cofiadwy i wylwyr y Sianel.
Ymhlith uchafbwyntiau'r cyfnod y mae cyfresi newydd unigryw o bob math fydd yn apelio at wylwyr ffyddlon y Sianel, a chynulleidfaoedd newydd.
Yn dechrau ddiwedd yr wythnos hon ar S4C mae Y Plas – cyfres hanes byw fydd yn dangos pobl gyffredin heddiw yn byw fel trigolion plasty yn y flwyddyn 1910. Rhai'n byw'n fras, ac eraill yn gweini arnyn nhw ddydd a nos – mae bywyd Y Plas yn siwr o fod yn agoriad llygaid iddyn nhw ac i'r gynulleidfa.
Drama wreiddiol fawr y cyfnod fydd cyfres sydd wedi cael cryn dipyn o sylw'n rhyngwladol eisoes, sef Y Gwyll/Hinterland. Cyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Fiction Factory a’r dosbarthwyr rhyngwladol, ALL3MEDIA International yw hon - cyfres dditectif sydd wedi’i gosod yn ardal Aberystwyth, fydd yn dechrau ar S4C ddiwedd mis Hydref. Dyma fydd y cyfle cyntaf ar unrhyw sianel, mewn unrhyw wlad, i weld Y Gwyll/Hinterland cyn iddi ymddangos ar rwydweithiau eraill ar draws Ewrop.
Mae yna hefyd raglenni dogfennol unigol o bwys am daro’r sgrin gyda rhai yn coffau digwyddiadau mawr hanesyddol. Tanchwa Senghennydd yn coffau can mlynedd ers y gyflafan erchyll yma a laddodd cannoedd, ac i gyd-fynd â hon mae rhaglen arbennig i blant a ffilmiau addysgol ar-lein. Hefyd, fe fydd Cofio Llangyndeyrn yn nodi llwyddiant cymuned wrth atal cynllun i foddi dyffryn hanner can mlynedd yn ôl. Ac wrth i gyfres O’r Galon ddychwelyd, fe fydd rhaglen gyntaf y gyfres yn awr bwerus o ddarlledu gyda'r tad a’r mab John a Geraint Hardy, y ddau yn wynebau cyfarwydd ar S4C, yn trafod effaith alcoholiaeth ar y teulu.
Os mai byd natur sy’n eich diddori, mi fydd cyfres newydd Iolo Williams, Natur Gudd Cymru yn un na ellir ei methu. Fe fydd Iolo yn teithio drwy’r wlad yn chwilio am rai o’r rhywogaethau prin ac annisgwyl sy’n byw yng Nghymru heddiw. Mae hon yn gyfres fydd yn dangos elfennau unigryw o’n bywyd gwyllt a’n cynefin naturiol.
Ac i’r rheini ohonom sy’n treulio’n hamser hamdden yn yr ardd, Tyfu Pobl yw’r gyfres newydd i edrych ymlaen ati. Ond nid cyfres arddio gyffredin mo hon. Bydd Tyfu Pobl yn dilyn criw mewn un gymuned yng Ngwynedd fydd yn defnyddio eu gerddi a'r adnoddau naturiol o'u cwmpas i wneud newidiadau sylfaenol i'w bywydau. Ydy, mae Tyfu Pobol yn gysyniad cwbl newydd ddylai apelio at gynulleidfa fodern a blaengar.
Ar y meysydd chwarae, wrth i’r tymor RaboDirect Pro12 ddechrau ar S4C y penwythnos yma, fe allwn ni hefyd edrych ymlaen at weld gemau rhyngwladol yr hydref ar y sianel. A chyda Sgorio yn dangos y gorau o Uwchgynghrair Cymru, a Ralio+ yn dychwelyd hefyd, fe fydd digon i fodloni cefnogwyr chwaraeon yn yr hydref. Ac i wylwyr iau, fe fydd wythnos o raglenni arbennig sy’n apelio at blant a phobl ifanc. Yn benllanw’r wythnos honno, fe fyddwn yn darlledu ffilm ddogfen arbennig DymaFi.TV sy’n gadael i bobl ifanc gyflwyno eu bywydau bob dydd yn eu geiriau eu hunain, a thrwy’u dulliau eu hunain.
A bydd math gwahanol o ddrama ar y sianel hefyd wrth i Wynne Evans gyflwyno cyfres newydd sbon arall, sef Am Ddrama. Byddwn yn dilyn Wynne Evans - y tenor amryddawn a'r dysgwr Cymraeg brwd - wrth iddo deithio ar draws Cymru i gwrdd â'r cymeriadau unigryw ac allblyg sy'n perthyn i gymdeithasau "am dram" ac operatig. Fe fydd yn ymweld ag un gymdeithas ymhob rhaglen ac yn rhoi help llaw iddynt i baratoi ar gyfer perfformiad. A chyda’r gyfres gomedi Munud i Fynd newydd ddechrau, a Sioe Tudur Owen i ddod, fe fydd digon o adloniant i bawb yn ystod yr hydref ar S4C.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:
"Mae'n hamserlen ar gyfer hydref 2013 yn llawn rhaglenni unigryw a chofiadwy sydd yn mynd i godi'r bar o ran safon cynhyrchu teledu yng Nghymru - ac ry'n ni'n falch iawn o'r hyn sydd gyda ni i'w gynnig.
"Rydym yn gwrando ar bobol Cymru ac ym meysydd drama, adloniant, rhaglenni ffeithiol a digwyddiadau, mae'r hyn rydym wedi'i gynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod yn arbennig o uchel ei safon.
"Rwy'n ffyddiog y bydd ein rhaglenni'n apelio at bobl sydd eisoes yn gwylio S4C yn gyson, ac yn cyflwyno'r sianel i gynulleidfaoedd newydd hefyd."
Diwedd