25 Medi 2013
Bydd sêr rygbi'r dyfodol i'w gweld ar S4C yn fuan yn y gyfres gylchgrawn newydd sbon, Rygbi Pawb.
Mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, bydd Rygbi Pawb yn dangos yr holl gyffro o Uwch gynghrair y Principality a Chynghrair Dan 18 Undeb Rygbi Cymru gydag uchafbwyntiau wythnosol trwy gydol y tymor.
Mae’r gyfres newydd yn dechrau nos Fercher, 25 Medi pan fydd gêm y Gynghrair Dan 18 rhwng Coleg Pen-y-bont ac Ysgol Uwchradd Casnewydd yn hawlio’r sylw. Morgan Isaac fydd yn cyflwyno’r rhaglen gyda sylwebaeth gan Wyn Gruffydd.
Yn ychwanegol i gyfres Rygbi Pawb bydd S4C yn parhau i ddarparu ffrwd byw o gemau’r Gynghrair Dan 18 gan ddechrau'r tymor hwn gyda gêm rhwng Coleg Pen-y-bont ac Ysgol Uwchradd Casnewydd ar ddydd Mercher, 25 Medi am 2:30pm ar s4c.co.uk/rygbi.
Trwy gydol y tymor bydd Rygbi Pawb hefyd yn adrodd yr holl newyddion a datblygiadau o fyd y bêl hirgron yng Nghymru trwy ymweld ag ysgolion, clybiau, a cholegau'r wlad. Yn ychwanegol i’r chwarae ar y cae mae Rygbi Pawb yn anelu at adlewyrchu’r gwahanol lwybrau mae chwaraewyr ifanc rygbi Cymru yn eu dilyn ar eu taith i geisio cyrraedd y brig.
Mewn partneriaeth â URC, bydd Rygbi Pawb hefyd i'w weld ar y we gyda newyddion dyddiol, storïau, y tablau a’r canlyniadau diweddaraf. Bydd y cwbl ar gael am y tro cyntaf ar wefan S4C.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Yma yn S4C rydym yn ymfalchïo yn ein cynnwys chwaraeon helaeth. Bydd y rhaglen hon yn ychwanegu at y cystadlaethau rygbi proffesiynol rydym eisoes yn eu dangos.
"Mae cefnogaeth a diddordeb sylweddol yn yr holl chwaraewyr ifanc fydd o bosib yn datblygu i fod yn enwau mawr ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol. Yn aml mae rhai o dalentau mwyaf addawol rygbi Cymru yn ymddangos gyntaf yng Uwch gynghrair y Principality a’r Gynghrair Dan 18. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld yr holl gyffro i gyd mewn un lle ar raglen Rygbi Pawb S4C."
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, "Rydym yn llongyfarch S4C am benderfynu agor eu hamserlen ddarlledu i lefel o rygbi sy’n gyffrous a dirgrynol ac sy’n adlewyrchu'r holl dalent ifanc sydd gennym yng Nghymru sydd yn datblygu trwy ‘n llwybrau datblygu.
"Mae ysgolion a cholegau yn hynod bwysig at ddyfodol y gêm yng Nghymru a thrwy ddarlledu gemau byw ar y we ac amryw o uchafbwyntiau bob wythnos ar Rygbi Pawb mae S4C yn helpu'r gwaith o hybu diddordeb yn y gêm, sy’n holl bwysig.
"Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r holl dimau a'r hyfforddwyr yn gweithio er mwyn sicrhau bod gwylwyr yn gweld ansawdd uchel iawn o rygbi fydd pawb yn mwynhau ei wylio."
Dywedodd Russell Isaac o gwmni cynhyrchu SMS, "Bwriad y rhaglen yw cynnig llwyfan i’r doniau rygbi sy’n datblygu yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth rhwng S4C, SMS ac URC yn denu mwy o dimau a mwy o chwaraewyr i gystadlu yn y cystadlaethau dan 18, ac y bydd yn y pen draw yn chwyddo’r gronfa dalent ar gyfer y clybiau, y rhanbarthau a’r tîm cenedlaethol."
Mae Rygbi Pawb yn dechrau nos Fercher 25 Medi am 10:30pm ar S4C. Gwyliwch Goleg Pen-y-bont v Ysgol Uwchradd Casnewydd yn fyw ar-lein ddydd Mercher 25 Medi am 2:30pm ar s4c.co.uk/rygbi.
Diwedd