S4C yn cadarnhau’r hawl i ysgolion a cholegau ddefnyddio Clic -gwasanaeth ar-alw S4C yn yr ystafell ddosbarth
17 Hydref 2013
Mae S4C wedi cyhoeddi newid i delerau ac amodau gwasanaeth Clic – gwasanaeth ar-alw S4C, sydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau ddefnyddio rhaglenni S4C yn yr ystafell ddosbarth.
Mae S4C wedi cadarnhau yr hawl i ysgolion a cholegau sydd â thrwydded gyda’r Asiantaeth Recordio Addysgol (Educational Recording Agency - ERA) wneud defnydd addysgiadol anfasnachol o wasanaeth rhaglenni ar-alw gwefan y sianel, Clic.
Gellid gwylio rhaglenni ar-alw ar wasanaeth Clic i fyny at 35 diwrnod yn dilyn eu darlledu. Mae’r gwasanaeth i’w gael ar: s4c.co.uk/clic
Mae amodau a thelerau S4C i’w gweld ar: http://www.s4c.co.uk/e_legal.shtml
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?