Mae S4C wedi lansio cynllun i ychwanegu ychydig o liw Cyw i wardiau plant mewn ysbytai ledled Cymru.
Dechreuodd y cynllun ddydd Llun (16 Rhagfyr) wrth i luniau rhai o hoff gymeriadau gwasanaeth Cyw S4C gael eu gosod ar waliau ward Dewi; ward blant Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Fe fydd wardiau mewn ysbytai eraill drwy Gymru’n cael eu haddurno dros y misoedd nesaf.
Yn Ysbyty Gwynedd, fe fydd yr addurniadau’n ymddangos ar waliau’r coridorau, yr ystafelloedd unigol, yr unedau arbennig ac ystafell chwarae’r plant.
Mae Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, yn gobeithio y bydd y cynllun yn gymorth i godi ysbryd plant Cymru wrth iddyn nhw gael triniaeth mewn ysbytai.
“Drwy’r cynllun newydd yma, ‘dan ni’n gobeithio byddwn ni’n gwneud cyfraniad bach tuag at yr ymdrechion i sicrhau nad yw treulio amser mewn ysbyty’n brofiad annifyr i blant Cymru. 'Dan ni’n gwybod bod staff ar wardiau ledled y genedl yn gweithio’n galed bob dydd i godi hwyliau’r plant wrth iddyn nhw gael eu triniaeth, ac os bydd lliw a hwyl Cyw a’i ffrindiau’n gallu bod o gymorth yn y gwaith yna, fe fydd y cynllun yma wedi llwyddo.
“Mae’n bleser inni allu dechrau’n cynllun yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond wrth gwrs, fe fydd ysbytai eraill ledled Cymru yn cael yr un profiad wrth i ragor o wardiau gael eu haddurno mewn ffordd debyg dros y misoedd nesaf.”
Bydd wardiau plant yn yr ysbytai canlynol yn cael eu haddurno gan S4C dros y misoedd nesaf:
Ysbyty Maelor, Wrecsam
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth,
Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?