10 Gorffennaf 2014
Mae cynhyrchwyr cyfres newydd S4C, a fydd yn ail greu bywyd yn y Canol Oesoedd yng Nghymru, yn chwilio am gogydd a all ddarparu prydau ar gyfer y gyfres hanes byw.
Fe fydd y gyfres Y Llys yn cael ei ffilmio yn yr hydref yn Llys Tre-tŵr ger Aberhonddu yng ngodre Bannau Brycheiniog ar safle sy’n cael ei ddiogelu gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, CADW. Y bwriad yw darlledu’r gyfres ym mis Tachwedd eleni.
Mae’r cynhyrchwyr eisoes yn y broses o ddewis pobl amrywiol i chwarae’r teulu bonheddig dychmygol yn Y Llys a’r gweision a’r swyddogion amrywiol a fyddai mewn cartref bonheddig yng nghyfnod y Tuduriaid.
Ond mae Boom Pictures Cymru, a gynhyrchodd y gyfres hanes byw Y Plas wedi’i lleoli ym Mhlas Llanerchaeron, Ceredigion ac wedi ei seilio yn y 1920au ar gyfer S4C, nawr wedi lansio apêl arbennig am gogydd.
Meddai’r cynhyrchydd Alison John, “Rydym yn chwilio am gogydd gyda sgiliau penodol i chwarae’r rôl hon, gan fod paratoi bwyd yn y cyfnod hwnnw yn her wahanol iawn i waith y cogydd mewn cegin fodern. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu lansio apêl gyhoeddus, gan obeithio y cawn hyd i siaradwr Cymraeg â’r sgiliau a’r gallu i daclo her grasboeth y gegin ganoloesol. Does dim rhaid i chi fod yn gogydd wrth broffesiwn, ond i chi feddu’r hyder a’r gallu i arwain tîm.”
Os oes gennych chi ddiddordeb ac yn credu bod gennych y sgiliau i ateb y galw, cysylltwch ag yllys@yllys.co.uk neu ffoniwch 02920671545 erbyn 25 Gorffennaf.
Roedd cynhyrchu Y Plas y llynedd yn cynnig her arbennig, ond mae ail greu cyfnod lle nad oedd dim gwres heblaw tanau coed, dim nwy na thrydan nac unrhyw olau heblaw cannwyll, yn sialens fwy fyth.
Mae’r cynhyrchwyr wedi troi at nifer o arbenigwyr i helpu yn y dasg o roi hygrededd hanesyddol i’r cogydd. Un o’r ymgynghorwyr sydd yn gweithio ar Y Llys, yw arbenigwr ar gyfnod y Tuduriaid, Marc Meltonville sy’n rheoli Castell Hampton Court, Llundain.
Meddai Marc Meltonville, “Roedd y cogydd a’r stiward yn dal y tŷ gyda’i gilydd. Rôl y stiward oedd dal popeth gweledol gyda’i gilydd yn y tŷ, tra bod y cogydd yn dal popeth nad ydych yn ei weld. Mae’r cogydd yn rheolwr amser gwych, mae’n trefnu trefn ddyddiol y tŷ. Mae’n sialens, ac mae’n rhaid i chi fod yn dda am drefnu, a rhaid i chi fod â balchder yn nhrefn ddyddiol y tŷ, a dylech hefyd fod yn gymeriad cryf.”
Un person sy’n annog unrhyw gyw gogydd i ymgeisio yw Jasmine Wilson o Bontrhydfendigaid. Hi oedd y cogydd yng nghyfres Y Plas – ac fe gafodd amser arbennig yno.
Meddai Jasmine, “Mae’n her bersonol fawr, ond yn sialens sy’n werth ei derbyn. Rwy’n siŵr y bydd pwy bynnag gaiff y sialens yn grêt! Pan es i mewn o’n i’n gwybod fy mod i wedi gwneud fy ngorau glas. Bydd pwy bynnag sy’n cael ei ddewis yn gogydd yn Y Llys yn dysgu cymaint am ei hun. Roedd e’n brofiad gwych, ac fe wnes i gymaint o ffrindiau!”