Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid AS yn ymweld â phencadlys S4C
16 Gorffennaf 2014
Heddiw (dydd Mercher 16 Gorffennaf) bu Ysgrifennydd Gwladol Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DCMS), Sajid Javid AS, yn ymweld â phencadlys S4C yn Llanisien, Caerdydd.
Yn ystod yr ymweliad, bu’n cwrdd â Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol gyfle hefyd i brofi peth o'r gwaith sy'n digwydd ym mhencadlys y Sianel, yn ogystal â chael blas ar gynnwys diweddar yr amserlen.
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd S4C, "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i bencadlys S4C yn Llanisien heddiw.
"Ar ei ymweliad cyntaf ers ei benodi, roedd heddiw yn gyfle i ni roi blas iddo ar ddarlledu yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â thrafod ein gobeithion a'n blaenoriaethau wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sianel.
"Mae'n angenrheidiol ein bod yn cynnal perthynas agos gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a'i adran yn Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau ei fod ef a'i swyddogion yn ymwybodol o'r gwaith da sy'n digwydd yma, ac ar draws y diwydiant annibynnol yng Nghymru, a phwysleisio cyfraniad unigryw S4C i ddiwylliant ac economi Cymru. Cafwyd geiriau cadarn o gefnogaeth ganddo i bwysigrwydd y gwaith hwn.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyd-weithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?