06 Awst 2014
Mae S4C wedi ennill yr hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau Cwpan Rygbi’r Byd Merched sy’n cael ei chynnal ym Mharis ar hyn o bryd.
Bydd rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd 2014 S4C yn dechrau ddydd Llun, 11 Awst, 10.00pm gyda S4C yn darlledu gemau grŵp cynnar y gystadleuaeth.
Bydd mwy o uchafbwyntiau i ddilyn, gyda S4C yn darlledu uchafbwyntiau gemau rownd gynderfynol a brwydr y safleoedd ddydd Iau 14 Awst a’r rownd derfynol ddydd Llun 18 Awst. Bydd y ddwy raglen yn dechrau am 10.00pm.
Mae Cwpan Rygbi’r Byd yr IRB ar gyfer merched, yn cynnwys tair rownd yn y grŵp, rowndiau safleoedd a’r rowndiau cynderfynol, gan orffen gyda’r rownd derfynol ar 17 Awst.
Bydd Alun Jenkins yn darparu sylwebaeth rygbi, gyda chyn gapten a chefnwr Cymru, Non Evans yn ail lais ac yn dadansoddi’r chwarae.
Meddai Non Evans, “Dwi’n edrych ymlaen yn arw at sylwebu ar raglenni S4C. Ers imi ymddeol bedair blynedd yn ôl ar ddiwedd Cwpan y Byd 2010, mae safon y chwarae, o ran y sgiliau trafod a lefelau ffitrwydd, wedi codi’n aruthrol. Fe fydd hi’n gystadleuaeth ddifyr iawn gan fod y timau i gyd yn llawer mwy cystadleuol erbyn hyn. Seland Newydd yw’r ffefrynnau, ond dwi am gadw llygad barcud ar Loegr, Ffrainc ac Iwerddon. Fe all fod ambell sioc ar y ffordd.”
Bydd y rhaglenni, sy’n gyd gynhyrchiad SMS a Sunset+Vine Cymru ar gyfer S4C, yn rhoi sylw penodol i hynt a helynt carfan ifanc Cymru, sy’n datblygu o dan arweinyddiaeth yr hyfforddwr Rhys Edwards.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, “Bydd gwylwyr S4C yn falch o glywed y bydd modd mwynhau uchafbwyntiau Cwpan Rygbi’r Byd i ferched 2014 ar y sianel. Mae’r rhaglenni’n adlewyrchu’r diddordeb cynyddol yn rygbi’r merched, ac yn dangos ymrwymiad S4C i ddarlledu’r amrywiaeth ehanga posibl o gystadlaethau rygbi o Gymru a’r byd.”
Mae Cymru yng ngrŵp C, sydd hefyd yn cynnwys Awstralia, Ffrainc, a De Affrica; a byddent yn anelu ar wella ar y nawfed safle y llwyddon nhw i gael yng Nghwpan y Byd 2010.
Cynhelir holl gemau’r grwpiau yn stadiwm rygbi yn Marcoussis, gyda gemau’r rownd gynderfynol â’r rownd derfynol i’w chwarae yng nghartref clwb Stade Français, stadiwm Stade Jean Bouin.
Bydd deiliaid y cwpan, Seland Newydd yn anelu at ennill y teitl am y pumed gwaith, ond mae gan enillwyr Gwpan y Chwe Gwlad, Ffrainc a Lloegr, eu llygaid ar y bencampwriaeth hefyd.
Mae tri grŵp o bedwar tîm yn y gystadleuaeth, gydag enillwyr pob grŵp a’r gorau o’r tri thîm yn yr ail safleoedd yn mynd i’r rowndiau cyn derfynol.
Bydd y gwledydd eraill yn brwydro ymhlith ei gilydd i benderfynu ar safleoedd terfynol.
diwedd