Clwb yn torri tir newydd ym maes cyfryngau cymdeithasol
05 Medi 2014
Fe fydd sioe chwaraeon newydd S4C Clwb yn rhoi llwyfan i bobl drin a thrafod chwaraeon mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen yn yr iaith Gymraeg.
Mae’r Clwb yn dechrau brynhawn Sul 7 Medi yn fyw o stiwdio’r gyfres yng Nghaernarfon – ac fe fydd y gwasanaeth rhyngweithiol yn ganolog i’r sioe amlgyfrwng hon.
Bydd y gwasanaeth yn rhan o wasanaeth ar-lein a fydd yn cynnwys gwefan newydd sbon fel rhan o s4c.co.uk.
Am y tro cyntaf erioed yn y Gymraeg bydd y cwmni Cymreig arloesol, Blurrt, yn defnyddio technoleg i fapio barn pobl Cymru am bynciau llosg y dydd yn y byd chwaraeon.
Bydd technoleg Blurrt yn caniatáu i brif gyflwynydd Clwb, Dylan Ebenezer a thîm Clwb gadw golwg manwl ar beth sy’n cael ei ddweud am chwaraeon ar y diwrnod.
Fe fydd y gohebydd Geraint Hardy, sy’n gyflwynydd sioe radio foreol Capital FM, yn ymuno â thîm Clwb yn benodol i gadw golwg ar y trin a’r trafod yn y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Blurrt, y busnes dadansoddi Twitter, sydd wedi’i leoli yng Nghwmbrân, ac wedi derbyn buddsoddiad gan S4C Masnachol Cyf, un o is-gwmnïau S4C, yn meddu ar y dechnoleg i ddilyn, dadansoddi a chrynhoi tueddiadau ac agweddau pobl ar safle cymdeithasol Twitter.
Fe fyddan nhw’n defnyddio’r dechnoleg yn fyw yn y rhaglen brynhawn Sul er mwyn anfon manylion y negeseuon trydar ar fwrdd negeseuon iPad i’r tîm cyflwyno yn stiwdio Clwb sydd wedi’i lleoli yng nghanolfan y cwmni cynhyrchu Rondo Media yng Nghaernarfon.
Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, “Mae hyn yn garreg filltir yn hanes y cyfryngau cymdeithasol yn yr iaith Gymraeg. Bydd Blurrt yn cofnodi sylwadau pobl yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn creu pôl piniwn wythnosol er mwyn adlewyrchu sgwrs cefnogwyr chwaraeon a rhoi cyfle i’r gwylwyr gael dweud eu dweud.”
Meddai Dylan Ebenezer, “Nid yn unig fydd y rhaglen yn rhoi llwyfan i rygbi byw, pêl-droed byw o Uwch Gynghrair Cymru, ymysg nifer o chwaraeon eraill, ond bydd yn rhoi llwyfan hefyd i'r gwyliwr.
Ry'n ni ishe i chi gymryd rhan, felly cofiwch drydar @ClwbS4C. Mae 'ngwraig i'n casáu mod i ar fy iPad gymaint ond bydd hyn yn esgus perffaith! Ry'n ni ishe clywed gennych chi - da neu ddrwg, ac os bydd unrhyw newyddion o'r byd chwaraeon yn torri yn ystod y rhaglen, mi fyddwn ni'n trafod hynny'n syth," meddai Dylan.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?