30 Medi 2014
Mae S4C wedi ennill yr hawliau daearol ecsgliwsif i ddangos uchafbwyntiau estynedig o rownd derfynol Cwpan NRL Rygbi Cynghrair Cenedlaethol Awstralia ddydd Sul, 5 Hydref.
Bydd rhaglen chwaraeon newydd S4C Clwb yn darlledu pecyn uchafbwyntiau 45 munud o’r NRL Grand Final 2014 rhwng South Sydney Rabbitohs a Canterbury Bulldogs-Bankstown ychydig o oriau yn unig ar ôl i’r rownd derfynol gael ei chynnal.
Bydd yr uchafbwyntiau’n dechrau ar Clwb am 2.30pm ac yn eu dilyn cawn fwynhau uchafbwyntiau Top 14 Ffrainc ac yna’r gêm Guinness Pro 12 rhwng Scarlets a Dreigiau yn fyw ar Clwb Rygbi.
Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4 a Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru. Bydd gwylwyr y tu allan i Gymru’n gallu gwylio S4C ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166. Gall gwylwyr ledled y DU hefyd wylio S4C yn fyw ar s4c.co.uk/clic, tvcatchup.com a TVPlayer.com.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C,
"Rownd Derfynol y NRL yw gêm fwyaf rygbi'r gynghrair ar gyfer clybiau yn y byd, ac yn un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf poblogaidd Awstralia.
Mae ennill yr hawliau ar gyfer yr uchafbwyntiau daearol yn sgŵp enfawr i S4C a'r rhaglen chwaraeon newydd Clwb.
"Bydd dilynwyr traddodiadol rygbi’r gynghrair yng Ngogledd Lloegr a gweddill y DU yn siŵr o wylio ar Sky, Freesat ac ar-lein. Mae yna ddilyniant mawr i rygbi'r gynghrair yng Nghymru hefyd, ac mae llawer o ddilynwyr a chwaraewyr rygbi’r undeb am wylio cyn troi eu sylw at y gêm fyw yn rygbi’r undeb Pro 12 ar Clwb”
Y Sydney Roosters enillodd y premier y tymor diwethaf ond clwb arall y ddinas enwog, y South Sydney Rabbitohs sy'n dechrau fel ffefrynnau wrth iddyn nhw wynebu her Canterbury Bulldogs-Bankstown o flaen tyrfa debygol o 83,000 yn Stadiwm Awstralia, Sydney.
Fe lwyddodd y South Sydney Rabbitohs - sy’n rhannol yn eiddo i’r actor Russell Crowe - i gyrraedd y rownd derfynol trwy guro y Roosters 32-22. Buddugoliaeth yn erbyn y Panthers o 18-12 a arweiniodd y Bulldogs at y ffeinal.
Hwn fydd y tro cyntaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn rownd derfynol ers 1967, pan enillodd y Rabbitohs o 12-10 yn y gystadleuaeth a alwyd yn NSWRL y pryd hynny.
Y tymor hwn maen nhw wedi mwynhau un fuddugoliaeth yr un yn erbyn ei gilydd, gyda’r Rabbitohs yn curo'r Bulldogs o saith pwynt yn Rownd 25, tra yr enillodd y Bulldogs yn gynt yn y tymor o drwch blewyn, 15-14.
Alun Wyn Bevan fydd y prif sylwebydd, gyda chyn arwr rygbi'r gynghrair a rygbi’r undeb Brynmor Williams yn ail lais ac yn dadansoddi’r chwarae yn y cynhyrchiad hwn gan Rondo Media ar gyfer S4C.