Mewn newid i’r cynlluniau a gyhoeddwyr, ni fydd rasio ceffylau byw o Ffos Las yn cael ei ddarlledu ar S4C ddydd Sul 12 Hydref.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:
“Mewn ewyllys da, mae S4C wedi cytundebu am hawliau darlledu rasio byw gyda chwrs rasio Ffos Las.
“Yn ôl cynnwys y cytundeb hwnnw, fe fyddai S4C yn cael darlledu o Ffos Las ar Hydref 12 ac ar nifer o ddyddiadau eraill yn ystod y tymor rasio presennol.
“Mae’n ymddangos bellach nad oedd cwrs rasio Ffos Las mewn sefyllfa i werthu’r hawliau darlledu hynny.
“O ganlyniad i’r sefyllfa hon, ni fydd modd i S4C ddarlledu rasio ceffylau byw o Ffos Las. Rydym yn ymddiheuro i’r gynulleidfa am unrhyw anghyfleustra sydd wedi’i achosi.
“Rydym yn gobeithio parhau a’n trafodaethau gyda Ffos las gyda’r bwriad o adlewyrchu’r digwyddiadau chwaraeon lefel uchel sy’n digwydd yno yn y dyfodol.”
“Ni fyddai’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?