16 Hydref 2014
Mae Academi Brydeinig Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi heddiw (16 Hydref) eu bod wedi cyflwyno Gwobr Arbennig i'r gyfres sebon deledu, Pobol y Cwm ar ei phen-blwydd yn ddeugain.
Cyflwynwyd y wobr yn ystod digwyddiad arbennig i ddathlu'r garreg filltir ym myd darlledu drama Gymraeg a gynhaliwyd yn y Stwidio ddarlledu ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd ar 16 Hydref. Wedi ei chynhyrchu gan BBC Cymru Wales darlledwyd yr opera sebon am y tro cyntaf ar 16 Hydref, 1974.
Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru a gyflwynodd Wobr Arbennig BAFTA Cymru i'r actor Gareth Lewis, sydd wedi chwarae cymeriad hirhoedlog Cwmderi, Meic Pierce, am 39 o flynyddoedd ac sy'n ymddeol o'r gyfres eleni.
Roedd BAFTA Cymru yn cyflwyno'r Wobr Arbennig e mwyn cydnabod camp cynhyrchwyr Pobol y Cwm ar gyrraedd eu deugain pen-blwydd fel cyfres sebon a gaiff ei darlledu ar S4C, a'i chynhyrchu gan BBC Cymru Wales.
Rhoddwyd y Wobr Arbennig i'r cast a'r criw mewn cydnabyddiaeth o lwyddiant y gyfres yn cyflawni 40 o flynyddoedd fel cyfres sydd wedi darlledu yn dd-ibaid ar S4C, ac wedi ei chynhyrchu gan BBC Cymru Wales.
Meddai Hannah Raybould, cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Pwrpas BAFTA Cymru yw dathlu rhagoriaeth ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol o fewn y cyfryngau yng Nghymru. Mae Pobol y Cwm wedi bod yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C fyth ers i'r sianel ddechrau darlledu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r cast a'r criw wedi darganfod a datblygu nifer fawr o unigolion talentog. Mae pwyllgor BAFTA Cymru yn fawr o allu cydnabod llwyddiannau Pobol y Cwm dros bedwar degawd o ddarlledu."
Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu pedwar deg mlynedd o Pobol y roedd y digwyddiad a gynhelir gan BAFTA, BBC Cymru Wales ac S4C yn rhoi cyfle i'r cast, y criw a rhai o wylwyr selog y gyfres ddathlu'r garreg filltir bwysig.
Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Rwy wrth fy modd ac yn ddiolchgar bod BAFTA Cymru wedi anrhydeddu llwyddiannau nodedig Pobol y Cwm wrth i'r gyfres gyrraedd ei phedwar deg. Cyfrinach llwyddiant y gyfres dros gymaint o flynyddoedd yw ymroddiad llwyr gan dîm arbennig iawn o gynhyrchwyr a chast. Mae eu camp a'u hirhoedledd yn stori sy'n ysbrydoli - ac mae'n un y gallwn ni ymfalchïo ynddo."
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C: "Hoffwn longyfarch holl aelodau'r cast a'r criw sydd wedi gweithio ar Pobol y Cwm dros y blynyddoedd ac sy'n dal i wneud hynny. Mae pedwar deg mlynedd yn dipyn o gamp, ac mae'r gyfres a'i straeon yn dal i fod yn hynod berthnasol i wylwyr S4C heddiw. Mae'r gyfres yn dal i fod yn rhan ganolog o amserlen S4C, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n parhau i fynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd i ddod. Pen-blwydd Hapus Pobol y Cwm!"
Diwedd