12 Ionawr 2015
Bydd modd i wylwyr S4C wylio dau gydgynhyrchiad rhwng S4C a Sianel De Corea, JTV yn ystod y pythefnos nesaf.
Bydd y rhaglenni’n edrych ar ddau ddigwyddiad pwysig, sydd wedi siapio De Corea fel gwlad, gan lunio cadwyn gref rhwng Cymru a'r wlad bwerus economaidd Asiaidd.
Yn y rhaglen gyntaf yn rhaglen Gohebwyr: Jon Gower (cynhyrchiad Awen Media) i'w darlledu ar ddydd Mawrth, 13 Ionawr am 9:30, bydd y newyddiadurwr a'r awdur Jon Gower yn mynd ar drywydd stori hynod y cenhadwr Robert Jermain Thomas, sydd yn cael ei gydnabod fel y gŵr gyflwynodd Gristnogaeth i'r wlad.
Yn yr ail ddogfen Gohebwyr: John Hardy - Cofio Rhyfel Corea (cynhyrchiad Rondo Media) i'w dangos ar S4C, ddydd Mawrth, 20 Ionawr am 9:30, bydd y darlledwr John Hardy yn mynd ar daith bersonol ac emosiynol i Dde Corea i olrhain hanes ei dad yn ystod Rhyfel Corea. Mae'r flwyddyn hon yn nodi 65 mlynedd ers dechrau'r rhyfel - ac yn swyddogol nid yw'r rhyfel hwn wedi gorffen.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn ystod y ddau ddarllediad, sydd hefyd i'w cynnwys ar blatfform deledu ac ar-lein drwy Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Dyma'r tro cyntaf i'r darlledwr S4C a'r cwmnïau cynhyrchu Awen Media a Rondo Media wethio gyda'i gilydd ar gydgynhyrchiad wedi ei ariannu gan S4C a JTV.
Mae'r cydweithrediad wedi ei threfnu drwy gwmni 'The Bridge', cwmni annibynnol, arloesol sy'n dod â chwmnïau cynhyrchu a syniadau at ei gilydd gyda phartneriaid cynhyrchu Asiaidd.
Dywed Amanda Groom, Rheolwr Gyfarwyddwr The Bridge: "Mae The Bridge yn hapus iawn o fod wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddod â'r ddau gydgynhyrchiad yma, sy'n torri tir newydd, i'r sgrin gyda De Korea.
"Nid yw Rhyfel Corea wedi derbyn lawer o sylw gan gwmnïau teledu'r Deyrnas Unedig. Mae'r storïau personol rhwng tad a mab yn Gohebwyr: John Hardy - Cofio Rhyfel Corea, yn cynhyrchu naratif sy'n bersonol wefreiddiol ac yn ddiwylliannol arwyddocaol.
"Mae atsain R J Thomas i'w deimlo hyd heddiw mewn eglwysi Cristnogol yn Ne Corea, ond mae hi hefyd yn stori anghyfarwydd i ni yn y gorllewin, er hynny mae ei heffaith yn parhau i dreiddio i agweddau bywydau dyddiol miloedd o bobl yn Ne Corea hyd heddiw.
"Drwy ddod a chwmnïau cynhyrchu Cymreig, fel Rondo Media ac Awen Media at gwmni cynhyrchu JTV ac S4C, medrodd The Bridge i dderbyn nawdd ychwanegol o Dde Corea gan ganiatáu i'r cynyrchiadau ddigwydd, a phrofi y gall cydgynyrchiadau rhwng teledu'r dwyrain a'r gorllewin gyrraedd trawstoriad eang o wylwyr."
Mae'r cynyrchiadau yn cael eu hariannu gan sianeli S4C a JTV.
Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Llion Iwan: "Mae'r cydgynyrchiadau arloesol yma wedi dod a dwy wlad, a phobl sydd yn gwbl wahanol, at ei gilydd, ond mae gan y bobl gwlwm hanesyddol a diwylliannol barhaus. Yn fwy na dim, mae wedi arwain at ddwy raglen o ddiddordeb dynol a hanesyddol fydd yn hudo'r gwylwyr yma yng Nghymru."
Diwedd